Iudith 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y bobl yn ddarostyngedic i Holophernes. 8 Efe yn di­nistrio eu duwiau hwynt fel yr addolid Nabuchodonosor yn vnic.

1Felly hwynt a anfonasant gennadau, a geiriau heddychlon atto ef: gan ddywedyd,

2Wele gweision ydym ni i Nabuchodonosor y brenin mawr, yr ydym ni yn sefyll yn dy ŵydd di, gwna di i ni fel y gwelech di yn ddâ.

3Wele ein tai ni, a’n holl leoedd, a’n holl feusydd gwenith a’n defaid, a’n gwartheg, a’n holl luestai ni, a’n pebyll yn sefyll o’th flaen di: gwna di iddynt fel y gwelech yn dda.

4Wele hefyd ein dinasoedd ni a’r rhai sy yn trigo ynddynt ydynt dy weision, tyret ti a chymmer hwynt, fel y gwelech di yn dda.

5Felly y gwŷr a ddaethant at Holophernes, ac a fynegasant wrtho ef yn ôl y geiriau hynn.

6Yna efe a ddaeth i wared tua ’r mor-dîr, efe ai lu, ac a gadwodd y dinasoedd vchel, ac a gymmerth allan o honynt wŷr etholedig yn gynhorthwy

7Felly hwynt hwy a’r holl wlâd o amgylch ai croesawasant ef â choronau, â dawnsiau, ac â thympanau.

8Er hynny efe a ddifwynodd eu holl frô­oedd hwynt, ac a dorrodd i lawr eu llwynau hwynt: canys fe a orchymynnasid iddo ef ddinistrio holl dduwiau y tîr, fel yr addole yr holl genhedloedd Nabuchodonosor yn vnic, ac y galwe pôb tafod a llwyth arno ef megis ar Dduw.

9Ac efe a ddaeth ar gyfer Esdraelon, yn gyfagos at Dothea, gyferbyn a’r gyfyng fawr i Iuda.

10Ac efe a wersyllodd rhwng Geba, a dinas y Scythiaid, ac efe a fu yno fîs o ddyddiau: fel y cascle efe wehilion ei lu ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help