1Ac Iob a atebodd, ac a ddywedodd,
2Yn wîr mi a wn mai felly canys pa fodd y cyfiawnheuir dyn, a Duw?
3Os myn efe ymryson ag efo: nid ettŷb iddo ef vn o fil.
4Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a galedodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
5Yr hwn sydd yn symmud mynyddoedd: heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.
6Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaiar allan oi lle: fel y cryno ei cholofnau hi.
7Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.
8Yr hwn sydd yn tanu y nefoedd yn vnic: ac yn sathru ar donnau y môr.
9Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac stafelloedd y dehau.
10Yr hwn sydd yn gwneuthur mawrion anchwiliadwy: a rhyfeddodau anneirif.
11Wele efe aiff trosofi, ac nis gwelaf: ac efe a aiff heibio, ac ni chanfyddaf mo honaw.
12Wele efe a sclyfaetha, pwy a wna iddo dalu? pwy a ddywed wrtho ef, pa ham y gwnei di
13Ni thrŷ Duw ei ddigllonedd ymmaith: tano ef y crymmwyd cynhorthwy-wŷr balchder.
14Pa feint llai’r attebaf iddo ef? y gallaf ddewis fyng-eiriau wrtho ef?
15I’r hwn pe bawn cyfiawn nid atebwn, eithr ymbiliwn a’m barn-wr.
16Os galwn, a phe atebe efe i mi, ni chredwn y gwrandawe efe fy lleferydd.
17Yr hwn a’m dryllia a chor-wynt: ac a amlhâ fy archollion yn ddi-achos.
18Ni ddioddef efe i mi gymmeryd fy anadl attaf: canys efe a’m lleinw a chwerwder.
19Os am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am gyfraith, pwy a ddadleua trosofi?
20Os myfi a ymgyfiawnhaf fyng-enau a’m barn yn euog: perffaith efe a’m barn fi yn drofaus.
21[Pe byddwn berffaith nid adwen i fy enaid: ffiaidd gennif fy enioes.
22Dymma vn peth, am hynny y dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith fel yr annuwiol.
23Er lladd o honaw ef a ffrywyll yn ddisymmwth: a watwar efe am benn cospedigaeth rhai diniwed?
24Y ddaiar a roddwyd yn llaw’r annuwiol, efe a fwrw hûg dros wynebau ei barn-wŷr hi: onid ê, pa le phwy
25A’m dyddiau mau fi fuant gynt na rheddeg-wr: ffoasant heb wêled daioni.
26Aethant heibio gyd a llongau buan: megis yr eheda eryr at ymborth.
27Os dywedaf, gollyngaf fyng-hŵyn dros gof: mi a adawaf fy nigllondeb, ac a gryfhâf.
28[Yna yr] ofnaf fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.
29[Os] euog fyddaf: pa ham yr ymflinaf felly yn ofer?
30Os ymolchaf mewn dwfr eira: ac glanhaf fy nwylaw yn lân:
31Yna di a’m trochi mewn pwll: a’m dillad a’m drewant.
32Canys nid gŵr fel myfi y mae yn rhaid i mi atteb iddo ef, ddelom yng-hyd i’r farn.
33Nid oes rhyngom ni gryf ddyddiwr yr hwn:] a osodo ei law arnom ein dau.
34Tynned ymmaith ei wialen oddi arnaf: ac na ddychryned ei ddychryn ef fi.
35Yna y dywedaf, ac nid ofnaf ef: canys nid ydwyfi felly ynof fy hûn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.