1Iddo yn awr, chwi gyfoethogion wylwch, ac vdwch am eich trueni a ddêl arnoch.
2Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwiscoedd bwyd pryfed ydynt.
3Eich aur a’ch arian a rýdodd, a’u rhŵd hwynt a fydd tŷst yn eich erbyn ac a yssa eich cnawd fel tân: casclasoch dryssor yn y dyddiau diweddaf.
4Wele, y mae cyflog y gweith-wŷr y rhai a fedasant eich meusydd (yr hwn a attaliasoch trwy dwyll) yn llefain: a llef y rhai a fedasant, a ddaethant i glustiau Arglwydd y lluoedd.
5Moethus fuoch ar y ddaiar, a thrythyll, meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.
6Condenmasoch, a lladdasoch y cyfiawn yr hwn ni’s gwrthwynebodd chwi.
7Am hynny fy mrodyr, byddwch ymarhous hyd ddyfodiad yr Arglwydd, wele, y llafur-wr a ddisgwil am werth-fawr ffrwyth y ddaiar yn dda ei ammynedd am dano, nes caffel o honaw y glaw cynnar, a’r diweddar.
8O blegit hynny byddwch chwithau hefyd yn dda eich ammŷnedd, a chadarnhewch eich calonnau, canys y mae dyfodiad yr Arglwydd yn nessau.
9Na wnewch ddim tuchan yn erbyn eu gilydd fy-mrodyr, fel na’ch condemner chwi: wele y mae y barn-wr yn sefyll wrth y drŵs.
10Cymmerwch yn siampl, fy-mrodyr, am oddef blinder, ac am hir ammynedd y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw’r Arglwydd.
11Wele, dedwydd yr ydym yn adel y rhai a ymoddefant, chwi a glywsoch am ammynedd Iob, ac a welsoch y diwedd a wnaeth yr Arglwydd: o blegit tra-thosturiol yw’r Arglwydd, a thrugarog.
12Eithr o flaen pob peth fy mrodyr, Math.5.34.na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaiar, na llw arall: eithr bydded eich ie, yn îe, a’ch nag-ê, yn nag-ê, rhag syrthio o honoch mewn barn.
13A oes nêb yn eich plith mewn adfyd? gweddied: a oes nêb yn esmwyth arno? caned Psalmau.
14A oes nêb yn eich plith yn glaf? galwed am henaduriaid yr eglwys, a gweddiant hwy trosto, ac Mar.6.13.eneiniant ef ag olew yn enw’r Arglwydd.
15A gweddi’r ffydd a iacha’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fynu: ac o gwnaeth efe bechodau, hwy a faddeuir iddo.
16Cyfaddefwch eich beiau y naill i’r llall, a gweddiwch tros eu gilydd, fel eich iacheuir: canys llawer a ddichon gweddi’r cyfiawn, os ffrwythlon fydd hi.
17 1.Bren.17.1. Luc.4.25. Elias dŷn ydoedd o’r vn sut a ninneu, ac yn ei weddi y gofynnodd na bydde law, ac ni bu law dair blynedd a chwe-mîs.
18Ac efe a weddiodd trachefn, ac fe a roddes y nef y glaw, ac fe a ddug y ddaiar ei ffrwyth.
19Fy mrodyr od Math.18.1.aeth neb o honoch ar gyfeilorn oddi wrth y gwirionedd, a throi a ryw vn ef,
20Gwybydded efe am y nêb a droes y pechadur rhag myned ar gyfeilorn oddi ar y ffordd, ei fod efe yn cadw enaid rhag angeu, ac yn cyscodi lluosogrwydd o bechodau.
Terfyn Epystol Iacob.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.