Mathew 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Crist yn ymprydio, yn cael ei demptio, 4 Ac yn gorchfygu diafol â’r scrythyrau. 11 Yr Angelion yn gwasanaethu iddo. 12 Efe yn dechreu pregethu edifeirwch. 18 Yn galw Petr, Andreas, Iaco, ac Ioan. 23 Yn pregethu yr Efengyl, ac yn iachau’r holl gleifion.

1

11Yna y Mar.1.16. Fel yr oedd yr Iesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd yn bwrw rhwyd i’r môr, (canys pyscod-wŷr oeddynt)

19Ac efe a ddywedodd wrthynt, deuwch ar fy ôl i, ac mi a’ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion.

20Ac hwy yn y fan, gan adel y rhwydau a’i dilynasant ef.

21Ac wedi ei fyned ef oddi yno, efe a welodd ddau frodyr Mar.1.19.eraill, Iaco Zebedeus, ac Ioan ei frawd mewn llong gyd â Zebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau, ac a’u galwodd hwy.

22Ac hwy yn ebrwydd gan adel y llong a’u tâd a’i canlynasant ef.

23Ac yna’r aeth yr Iesu o amgylch holl Galilæa gan ddyscu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd, a phob afiechyd ym mhlith y bobl.

24Ac aeth sôn am dano ef trwy holl Syria: a hwy a ddugasant atto yr holl rai drwg eu hwyl o amryw glefydau, ac wedi eu nychu gan gnofeudd, a’r rhai cythreulic, â’r rhai lloeric, a’r sawl oeddynt a’r parlys arnynt, ac efe a’u hiachaodd hwynt.

25A thyrfa fawr ai canlynodd ef o Galilæa, a Decapolis, ac o Ierusalem, ac o Iudæa, ac o’r gwledydd o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help