1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd gan ddywedyd:
2Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a phregetha’r gair hwn yno, a dywet: Gwrandewch air yr Arglwydd chwi oll Iuda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy’r pyrth hyn i addoli’r Arglwydd.
3Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, Iere.26.13.gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd, ac mi a adawaf i chwi drigo yn y mann ymma.
4Nac ymddyriedwch chwi mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd: Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd yw hon.
5Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd: os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr ai gymydog,
6[Ac] na orthrymmwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y fann hon, ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr i’ch niwed eich hun,
7Yna y gadawaf i chwi drigo yn y fann hon, yn y tîr a roddais i’ch tadau chwi yn oes oesoedd.
8Wele chwi yn ymddyried mewn geiriau celwyddog heb fudd.
9Ai yn lladratta, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nis adwaenoch,
10Y deuwch, ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch: rhyddhauwyd ni i wneuthur o honom y ffieidd-dra hyn oll?
11 Matt.21.13. Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ ymma, ar yr hwn y gelwîr fy enw i ger bron eich llygaid? wele minne a welais medd yr Arglwydd.
12Eithr attolwg, ewch i’m lle mau fi yr hwn yn Sylo, lle y cyfleais fy enw yn y dechreuad, ac edrychwch beth a wneuthym i hwnnw o herwydd anwiredd fy mhobl Israel.
13Am hynny weithian gan wneuthur o honoch yr holl weithredoedd hyn medd yr Arglwydd, (a minne yn codi yn foreu, ac er dywedyd wrthych, etto ni wrandewech fi: a phan alwn nid attebech)
14Am hyn y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddyried ynddo, ac i’r lle hwn a roddais i chwi, ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Silo.
15Ac mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr holl hâd Ephraim.
16Na weddia dithe tros y bobl hyn, ac na dderchafa di waedd, na gweddi trostynt, ac nac eiriol attaf: canys ni’th wrandawaf.
17Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem?
18Y plant sy yn casclu briwydd, a’r tadau yn cynneu tân, a’r gwragedd yn telino toes, i wneuthur teisennau 2.Bren.23.5. Iere.44.17.i frenhines y nef, ac i dywallt diod offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i.
19Ai fi y maent hwy yn ei ddigio medd yr Arglwydd, ai hwynt eu hun, er cywilydd iw hwynebau?
20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y mann ymma, ar ddyn, ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaiar fel y llosco, ac na’s diffoddir.
21Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: rhoddwch eich poeth-offrymmau, at eich aberthau, a bwyttewch y cîg.
22Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchymynnais iddynt y dydd y dugym hwynt o dîr yr Aipht, am boeth offrwm, nac aberth:
23Eithr y peth hyn a orchymynnais iddynt, gan ddywedyd: gwrandewch ar fy llêf, ac mi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minne, a rhodiwch ym mhob ffordd a orchymynnais i chwi fel y byddo yn ddaionus i chwi.
24Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngâsant eu clustiau, onid rhodiasant yn ôl cynghorion, childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ym mlaen.
25O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlâd yr Aipht hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais attoch fy holl wasanaeth-wŷr, y prophwydi, dydd gan foreu-godi, ac anfon:
26Er hynny ni wrandawent arnafi, ac ni ostyngent eu clustiau, eithr caledâsant eu archollion, gwaeth oeddynt nâi tadau.
27Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt, ond ni wrandâwant arnat, gelwi hefyd arnynt, ond nid attebant di,
28Eithr ti a ddywedi wrthynt, dymma genhedlaethyr hon ni wrandawodd ar lais yr Arglwydd ei Duw, ac ni dderbynnasant gospedigaeth: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymmaith oi genau hwynt.
29 Iob.1.2. Mich.1.16 Cneifia dy wallt, a bŵrw i ffordd, a chyfot gwynfan ar y lleoedd vchel: canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd, ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.
30Canys meibion Iuda a wnaethant ddrwg yn fyng-olwg medd yr Arglwydd: gosodâsant eu ffieidd-dra yn y tŷ (yr hwn y gelwir fy enw arno) gan ei halogi ef.
31 2.Bren.23.10. Ac hwynt a adailadasant vchel-faon Tophet, yr hon yng-lynn mab Hinnon: i losci eu meibion, ai merched yn tân, yr hyn ni orchymynnais, ac ni feddyliodd fyng-halon.
32 Lefit.18.21. Lefit.20.3. Deut.18.10 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, ac nis gelwir mwy Tophet, na glynn mab Hinnom, namyn glynn celanedd: canys claddant o fewn Tophet, o eisieu lle.
33A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar, ac ni ai tarfo.
34 Ezec.26.13. Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priod-fab, a llais priod-ferch ddarfod allan o ddinasoedd Iuda, ac o heolydd Ierusalem: canys yn anrhaith y bydd y wlâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.