1Dymma y cenhedloedd y rhai a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel drwyddynt (sef y rhai oll ni ŵyddent gwbl o ryfeloedd Canaan,
2Yn vnic i beri i genhedlaethau meibion Israel ŵybod, ac iw dyscu hwynt i ryfel: y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen)
3Pump tywysog y Philistiaid, a’r holl Canaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid (y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus: o fynydd Baal-hermon hyd y ffordd y deuir i Hamath)
4A’r a fuant i brofi Israel drwyddynt, i ŵybod a wrandawent hwy ar orchymynnion yr Arglwydd y rhai a orchymynnase efe iw tadau hwynt trwy law Moses.
5A meibion Israel a drigasant ym mysc y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid.
6Ac a gymmerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, rhoddasant hefyd eu merched iw meibion hwynt: a gwasanaethasant eu duwiau hwynt.
7Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng-olwg yr Arglwydd, anghofiasant hefyd yr Arglwydd eu Duw: a gwasanaethasasant Baalim, ac Aseroth.
8Am hynny digllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe ai gwerthodd hwynt i law Chusan Risathaim brenin Mesapotamia: a meibion Israel a wasanaethant Chusan Risathaim ŵyth mlhynedd.
9A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a gododd achub-ŵr i feibion Israel, ac efe ai hachubodd hwynt: sef Othniel mab Cenaz, brawd Caleb ieuangach nac ef.
10Ac yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel, a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Chusan Risathaim brenin Syria: ai law ef oedd drêch na Chusan Risathaim.
11Felly y cafodd y wlâd lonydd ddeugain mlhynedd: a bu farw Othniel mab Cenaz.
12Yna meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Isaael, am iddynt wneuthur drygioni yng-olwg yr Arglwydd.
13Ac efe a gasclodd atto feibion Ammon, ac Amalec: ac a aeth, ac a darawodd Israel, ac a orescynnasant ddinas y palm-wŷdd.
14Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddau nau mlhynedd.
15Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a gododd achub-ŵr iddynt, sef Ehwd mab Cera fab Iemini gwr anafus oi law ddehau: a meibion Israel a anfonasant anrheg gyd ag ef i Eglon brenin Moab.
16Ac Ehwd a wnaeth iddo gleddyf dau finiawc o gufydd ei hyd: ac ai gwregysodd ef tann ei ddillad ar ei glûn ddehau.
17Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab: ac Eglon ŵr tew iawn.
18A phan ddarfu iddo ef gyflwyno’r anrheg: yna efe a ollyngodd ymmaith y bobl y rhai a ddugasent yr anrheg.
19Ac efe a drodd oddi wrth y delwau cerfiedic y rhai yn Gilgal, ac a ddywedodd i mi air o gyfrinach a thi ô frenin: dywedodd yntef, gosteg: yna yr holl rai a’r a oeddynt yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.
20Yna Ehwd a ddaeth i mewn atto ef, ac yntef oedd yn eistedd mewn stafell hâf, yr hon iddo ef ei hunan, a dywedodd Ehwd gair Duw gennif attat ti: yna efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.
21Ac Ehwd a estynnodd ei law asswy, ac a gymmerth y cleddyf oddi ar eu glûn ddehau: ac ai brathodd ef yn ei botten.
22A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a’r brasder a ymgaeuodd am y llafn fel na ddeue yr cleddyf allan oi botten ef: onid y dom a aeth allan.
23Yna Ehwd a aeth allan i’r cyntedd: ac a gaeuodd ddrysau yr stafell arno, ac ai cloiodd.
24Pan aeth efe ymmaith, yna ei weision a a ddaethant, ac a edrychasant, ac wele ddrysau yr stafell yn gloiedic: am hynny y dywedasant, diau esmwythau ei gorph y mae efe yn yr stafell hâf.
25A hwynt a ddisgwiliasant nes ciwilylyddio ac wele nid oedd efe yn agori drysau yr stafell: yna hwynt a gymmerasant agoriad, ac a agorasant, ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.
26Felly Ehwd a ddiangodd tra fûant hwy yn aros, ac efe a aeth heibio i’r fan y cerfeid y delwau, ac a ddiangodd i Seirah.
27A phan ddaeth efe i mewn, yna efe a vdcanodd mewn vdcorn ym mynydd Ephraim: a meibion Israel a ddescynnasant gyd ag ef o’r mynydd, ac yntef oi blaen hwynt.
28Yna y dywedodd wrthynt canlynwch fi, canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab yn eich llaw chwi: a hwy a aethant i wared ar ei ôl ef, ac a ennillasant rŷdau yr Iarddonen tuag at Moab, ac ni adawsant neb i fyned trwodd.
29A hwy a darawsant o’r Moabiaid y pryd hynny yng-hylch deng-mil o wŷr, pawb yn rymmus, a phawb yn wŷr nerthol: ac ni ddiangodd neb.
30Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw tann law Israel: a’r wlâd a gafodd lonydd bedwar vgain mlhynedd:
31Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath, ac efe a darawodd o’r Philistiaid chwechan-nwr a gwialen ychen: yntef hefyd a waredodd Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.