1 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu a wiscodd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Arglwydd ac ymwregysodd â nerth: y byd hefyd a siccrhaodd efe fel na syflo.
2Darparwyd dy orseddfaingc er ioed: ti er tragywyddoldeb.
3Y llifeiriaint ô Arglwydd, a dderchafasant, y llifeiriaint a dderchafasant eu twrwf y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.
4Cadarn tonnau’r môr gan dwrwf dyfroedd lawer, cadarnach yw’r Arglwydd yn yr vchelder.
5Siccr iawn yw dy destiolaethau, sancteiddrwydd a wedde i’th dŷ ô Arglwydd byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
