Psalmau 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xvij.Exaudi Domine iustitiam.Gweddi Dafydd.

1Clyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy llefain, gwrando fyng-weddi o wefusau didwyll.

2Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar iniondeb.

3Profaist fyng-halon, gofwyaist y nôs, chwiliaist fi, ni chefaist bwriêdais na throsedde fyng-enau.

4Tu ag at am weithredoedd dynnion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais lwybrau yr speiludd.

5Cynnal fyng-herddediad yn dy lwybrau na lithro fy nhraed.

6Mi a elwais arnat, canys gwrandewi arnafi ô Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.

7Dangos dy ryfedd drugarêddau, ô achubudd y rhai a ymddyriedant rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheu-law.

8Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd di fi dann gyscod dy adenydd,

9Rhag yr annuwolion y rhai a’m gorthrymment: fyng-elynnion am enaid a amgylchant i’m herbyn.

10Caeâsant gan frasder, ai genau a lefarant mewn balchder.

11Ein cynniweirfa ni a gylchynâsant hwy yr awr hon, gossodâsant eu llygaid i dynnu i’r ddaiar.

12Eu dull fel llew a chwennyche sclyfaethu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn lloches.

13Cyfot Arglwydd, achub flaen iddo, chwympa ef: gwaret fy enaid rhag yr annuwiol dy gleddyf di.

14Oh Arglwydd fi oddi wrth ddynnion dy law oddi wrth ddynnion y bŷd, y mae eu rhann yn y bywyd ac yn llenwi eu boliau a’th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill iw rhai bychain.

15Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: pan ddihunwyf, digonir fi gan dy ddelw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help