1Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd.
2Gosot dy wyneb fab dŷn tu ag Ierusalem, a difera rua yr cyssegroedd, a phrophwydd am wlad Israel.
3A dywet wrth wlad Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd: wele fi i’th erbyn, tynnaf hefyd fyng-hleddyf oi wain, a thorraf o honot gyfiawn, ac anghyfiawn,
4O herwydd hyn y torraf o honot gyfiawn ac anghyfiawn: am hynny y daw fyng-hleddyf allan oi wain yn erbyn pob cnawd o’r deau hyd y gogledd.
5A chaiff pob cnawd ŵybod, am i mi yr Arglwydd dynnu fyng-hleddyf allan oi wain na ddychwele fe mwy.
6Ochain dithe fab dŷn am yssigtod lwyni, ie ochain di yn chwerw yn eu golwg hwynt.
7A bydded pan ddywedant wrthit: am va beth yr ydwyt yn ochein, yna ddywedyd o honot, am y chwedl newydd, canys daw fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob yspryd, a’r gliniau oll a ant yn ddwfr: wele efe yn dyfod, ac a fydd medd yr Arglwydd Dduw.
8A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
9Prophwyda fab dŷn a dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, dywet, cleddyf, cleddyf hogedic a gloiwedic hefyd.
10Efe a hogwyd fel y lladde laddfa, gloiwwyd fel y bydde iddo ddiscleirder: a lawenychwn ni? y mae efe’n dirmygu gwialen fy mâb fel pob prenn
11Canys efe ai rhodd yn loiw iw ddal mewn llaw, y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loiwwyd iw roddi yn llaw y lleiddiad.
12Gwaedda ac vda fab dŷn, canys hwn fydd yn erbyn fy mhobl i, hwn yn erbyn holl dywysogion Israel, syrthiedic ar gleddyf fyddant gyd a’m pobl: Iere.31.19.am hynny taro ar forddwyd.
13Canys profedigaeth a pheth os ddiystyra efe y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw?
14Tithe fab dŷn prophwyda, a tharo law, wrth law, canys dyblir y cleddyf dair gwaith: cleddyf lladdedigion efe, cleddyf lladdedigaeth lawr, yn eu lladd hwynt yn eu stafelloedd.
15Rhoddais fin cleddyf at eu holl byrth hwynt er mwyn toddi calon, ar amlhau y tramgwyddiadau; oh gwnaed ef yn ddisclair, hogwyd ef i ladd.
16Ymnailltua, dos ar y llaw dehau, ymosot, dos ar y llaw asswy lle y pwyso dy wyneb.
17Minne hefyd a darawaf fy llaw yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr Arglwydd a leferais.
18A daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
19Tithe fab dŷn gosot i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon, o vn tîr y deuant ill dwy, a dewis ie, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi
20Gosot ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thu ag Iuda yn erbyn Ierusalem gaeroc.
21Canys safodd drenin Babilon ar groesffordd i ddewino dewiniaeth, gloiwwodd ei saethau, y mofynnodd â delwau, edrychodd mewn afi.
22Yn ei law ddehau yr oedd dewiniaeth Ierusalem, am ossod capteniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i dderchafu llef mewn vdcan, i osod offer ryfel wrth byrth, i fwrw clawdd, i adailadu castell.
23A fydd ganddynt, fel dewino dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, y rhai a dyngasant lwon iddynt: a hynn fydd yn coffau anwiredd iw dal
24Am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw, am beri o honoch goffau eich anwiredd, pan amlygodd eich camweddau wrth ymddangos o’ch holl bechodau yn eich holl weithredoedd: am beri o honoch coffau i’ch delir â llaw.
25Tithe halogedic annuwiol dywysog Israel yr hwn y daeth ei ddydd diwedd yn amser anwiredd,
26Fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw, symmut y meitr, a chyfot y goron, nid felly hon: cyfot y gostyngedic, a gystwng yr vchel.
27Yn ŵyrni, yn ŵyrni, yn ŵyrni y gosodaf hi, ac ni bydd hon hyd oni ddelo, yr hwn cyfiawnder iddo, ai roddi o honof.
28Prophwyda dithe fab dŷn a dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon, ac am eu gwradwydd hwynt, dywet gan hynny, cleddyf, cleddyf sydd noeth i ladd, gloiw o herwydd discleirdeb i ddifetha.
29Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewino it gelwydd, gan dy roddi yng-yddfau y lladdedigion drygionus y rhai y daeth eu dydd diwedd mewn amser anwiredd.
30A ddychwelafi iw wain? yn y lle i’th greuwyd, yn nhir dy gynnefin i’th farnaf
31A thywalltaf fy nigllonedd arnat, a thân fy llidiawgrwydd a chwthaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, seiri dinistr.
32Ir tân y byddi yn ymborth, dy waed fydd yng-hanol y tîr, ni’th goffeir, canys myfi yr Arglwydd ai dywedais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.