1Pan Israel langc mi ai cerais ef, Math.2 13.ac a elwais fy mab o’r Aipht.
2[Fel] y galwent arnynt, felly hwythau a aent oi golwg hwynt: aberthasant i Baalim, a lloscasant arogl-darth i ddelwau cerfiedic.
3Myfi hefyd a berais i Ephraim gerdded, cymmerodd yntef hwynt yn ei freichiau, ond ni chydnabuant mae fi ai meddiginiaethodd hwynt.
4Tynnais hwynt mewn rheffynnau dynol, mewn rhaffau cariad, oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu llechweddau hwynt: a bwriais attynt fwyd.
5Ni ddychwel efe i wlâd yr Aipht, onid Assur fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.
6A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia hefyd, ac a yssa ei geingciau ef am ei ddychymmygion ei hun.
7Fy mhobl fydd ar ddau feddwl am fy nychweliad, a’r ar galwasant ef ac y Goruchaf, ni chyd-dderchafodd efe
8Pa fodd i’th roddaf ymmaith Ephraim? i’th roddaf i fynu Israel? pa fodd i’th roddaf fel Deut.29.23.Adama, ac i’th osodaf megis Zeboim? trôdd fyng-halon ynof, a’m edifeiriol emyscaroedd a gyd loscasant.
9Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim: canys Duw ydwyfi ac nid dŷn, Sanct yn dy blith ac nid âf i’r ddinas.
10Ar ôl yr Arglwydd yr ânt, efe a rua fel llew, pan ruo efe, yna meibion y gorllewyn a ddychrynant.
11Dychrynant fel aderyn y tô o’r Aipht, ac fel colomen o dîr Assur: ac mi ai gosodaf yn eu tai medd yr Arglwydd.
12Ephraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll: Iuda etto sydd yn llywodraethu gyd â Duw, ac yn ffyddlon gyd a’r sainct.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
