1.Samuel 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Saul yn ymgynghôri a dewines, ac yn cael clywed ei ddinistr ei hun.

1A’r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynnullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel: a dywedodd Acbis wrth Ddafydd, gwybydd di yn yspys yr ei di gyd a mi allan i’r gwerssylloedd ti a’th wŷr.

2A dywedodd Dafydd wrth Achis, yn ddiauti a gei ŵybod yr hyn a wnaiff dy wâs di: a dywedodd Achis wrth Ddafydd, yn wîr minne a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

3(A Pen.25.1.Samuel a fuase farw, a holl Israel a 124 alarasent am dano ef, ac ai claddasent ef yn Ramah, sef yn ei ddinas ei hum: a Saul a Exod.22.18. Deut.18.10.11.yrrase ymmaith y swynyddion, a’r dewiniaid o’r wlâd)

4Yna y Philistiaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant, ac a werssyllasant yn Sunem: a Saul a gasclodd holl Israel, a hwy a werssyllasant yn Gilboa.

5Pan welodd Saul werssyll y Philistiaid yna yr ofnodd efe, ai galon a ddychrynnodd yn ddirfawr.

6A phan ymgynghorodd Saul a’r Arglwydd yna’r Arglwydd nis attebodd ef: na thrwy freuddwydion, na thrwy Exod.28.30.Urim, na thrwy brophwydi.

7Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, ceisiwch i mi wraig berchen yspryd dewiniaeth, fel yr elwyf atti, ac yr ymofynnwyf a hi: ai weision a ddywedasant wrtho ef, wele gŵraig berchen yspryd dewiniaeth yn Endor.

8Yna Saul a newidiodd ei ddillad, ac a wiscodd ddillad eraill, ac efe a aeth a dau ŵr gyd ag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nôs, ac efe a ddywedodd, dewin a attolwg i mi drwy yspryd dewiniaeth, a dwg i fynu attafi yr hwn a ddywedwyf wrthit ti.

9A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, wele ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion, a’r dewiniaid o’r wlâd: pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy enaid i, i beri i mi farw?

10A Saul a dyngodd wrthi hi i’r Arglwydd gan ddywedyd: byw yr Arglwydd os ddigwydda i ti niwed am y peth hyn.

11Yna y dywedodd y wraig, pwy a ddygafi i fynu attat ti? ac efe a ddywedodd, dwg Samuel i fynu attafi.

12A’r wraig a ganfu Samuel, ac a alwodd a llef vchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul gan ddywedyd: pa ham y twyllaist fi, canys ti Saul?

13A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, nac ofna, canys beth a welaist? a’r wraig a ddywedodd wrth Saul, duwiau a welais yn derchafu o’r ddaiar.

14Yntef a ddywedodd wrthi hi, pa ddull arno ef? a hi a ddywedodd, gŵr hên sydd yn dyfod i fynu, a hwnnw yn gwisco mantell: a gwybu Saul mai Samuel efe, ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymmodd.

15A Samuel a ddywedodd wrth Saul, pa ham y cyffroaist fi, gan beri i mi ddyfod i fynu? yna y dywedodd Saul, mae yn gyfyng iawn arnafi, canys y mae y Philistiaid yn ryfêla yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthifi, ac ni’m hattebodd mwyach na thrwy law prophwydi, na thrwy freuddwydion, am hynny y gelwais arnat ti i yspyssu i mi beth a wnawn.

16Yna y dywedodd Samuel, pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn a mi, gan i’r Arglwydd gilio oddi wrthit ti, a bôd i ti yn elyn?

17Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo megis, ac y llefarodd drwy Pen.15.28.fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o’th law di, ac ai rhoddes hi i’th gymmydog Dafydd,

18O herwydd na wrandewaist di ar lais yr Arglwydd, ac na chyflawnaist di lidiawgrwydd ei ddigter ef yn erbyn yr Amaleciaid, am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.

19Yr Arglwydd hefyd a ddyru Israel gyd a thi yn llaw y Philistiaid, ac y Pen.31.6.foru di a’th feibion gyd a mi: a’r Arglwydd a ddyru werssyllau Israel yn llaw y Philistiaid.

20Yna Saul a fryssiodd, ac a syrthiodd oi hŷd gyhŷd ar y ddaiar, ac a ofnodd yn ddirfawr rhac geiriau Samuel: nerth hefyd nid oedd ynddo ef, canys ni fwytase fwyd yr holl ddiwrnod, na’r holl noswaith honno.

21Yna y daeth y wraig at Saul, a hi a ganfu mai dychrynnedig iawn oedd efe: a hi a ddywedodd wrtho ef, wele gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, gosodais hefyd fy enioes mewn enbydrwydd, ac vfyddheais dy eiriau y rhai a leferaist wrthif.

22Yn awr gan hynny gwrando dithe attolwg ar lais dy wasanaeth-ferch, a gad i mi osod ger dy fron di dammed o fara, fel y bwyttaech: ac y byddo nerth ynot, pan elech i ffordd.

23Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, ni fwyttâf: etto ei weision a’r wraig hefyd ai cymmellasant ef, ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt: ac efe a gyfododd oddi ar y ddaiar, ac a eisteddodd ar y gwely.

24Ac gan y wraig lô brâs yn tŷ yna hi a fryssiodd, ac ai lladdodd ef: cymmerth hefyd beillied, ac ai telînodd, ac ai pobodd yn grî.

25Yna hi ai dûg ger bron Saul, a cher bron ei weision ef, a hwy a fwyttasant: ac a gyfodasant, ac a aethant ymmaith y noson honno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help