1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd,
2Mâb dyn, dammega ddammeg, a dihareba ddihareb wrth dŷ Israel:
3A dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, yr eryr mawr, mawr ei adenydd, hîr ei ascell, llawn plû, yr hwn symmudliw iddo a ddaeth i Libanus, ac a gymmerth frigin y cedr-wŷdden.
4Torrodd frig ei blagur hi, ac ai dug i dir marchnadyddion, yn ninas marchnadyddion y gosododd ef.
5A chymmerth 2.Bren.24.17. Iere.37.1.o hâd y tîr, ac ai rhodd mewn maes ffrwythlon: cymmerodd, a gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, helygen.
6Yna y tyfodd ac yr aeth yn win-wŷdden wascaroc, issel o dŵf, ai changau yn troi atti: ai gwraidd oeddynt tani: felly yr aeth yn winwŷdden, ac y dug geingciau, ac y bwrriodd frîg.
7Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, ascelloc, a phluoc, ac wele y win-wŷdden hon yn casclu ei gwraidd atti, ac yn bwrw ei cheingciau tu ag atti: iw dwfrhau o rigolau ei phlanniad.
8Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y plannasid hi, i fwrw brîg, ac i ddwyn ffrwyth gan fod yn win-wŷdden ardderchoc.
9Dywet, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a lwydda hi? oni rwyga efe ei gwraidd hi? oni thyrr, ac oni sych efe ei ffrwyth hi? sychodd holl ddail ei brig, a nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, iw thynnu hi oi gwraidd.
10Gan hynny wele hi wedi ei phlannau, a lwydda hi? gan ŵywo, oni ŵywa pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thŵf y gwywa.
11Daeth hefyd gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
12Dywet yr awr hon wrth y tŷ anufyddgar, oni ŵyddoch beth hynny? dywet, wele daeth brenin Babilon i Ierusalem, ac efe a gymmerodd 2.Bren.24.15.ei brenin hi, ai thywysogion, ac ai dûg hwynt atto ef i Babilon:
13Ac a gymmerodd o hâd y frenhiniaeth, ac a wnaeth ag ef gyfammod, ac ai dûg ef tann lw: cymmerodd hefyd gedyrn y wlâd,
14Fel y bydde y deyrnas yn issel, heb ymdderchafu, i sefyll o honi trwy gadw ei gyfammod ef.
15Onid gwrthryfelodd iw erbyn gan anfon ei gennadau i’r Aipht, i geisio iddo feirch, a phobl lawer: a lwydda, ac a ddiangc yr hwn a wnelo hynn? ac a ddiangc efe gan ddiddymmu o honaw ef gyfammod?
16[Nid] byw fi medd yr Arglwydd Dduw, onid yng-hartref y brenin yr hwn ai gwnaeth ef yn frenin, (yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a’r hwn y diddymmodd efe ei gyfammod) y bydd efe marw yng-hanol Babilon gyd ag ef.
17Ac ni wna Pharao gyd ag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu castell, i dorri ymmaith lawer enioes.
18Gan ddiystyru o honaw lw, gan ddiddymmu y cyngrair (canys wele efe a roddase ei law) a gwneuthur o honaw hynny oll ni ddiangc.
19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, byw fi onid fy llw maufi yr hwn a ddiystyrodd efe, am cyfammod maufi yr hwn a ddiddymmodd efe a roddafi ar ei benn ef.
20Canys Ezec.12.13. Ezec.32.3.tânaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yna yr ymddadleuaf ag ef ei gammwedd yr hwn a wnaeth i’m herbyn.
21Ai holl ffoaduriaid oi holl luoedd a syrthiant ar y cleddyf, a’r lleill a wascerir gyd â phob gwynt: fel y gŵypoch mai myfi’r Arglwydd ai lleferais.
22Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, etto mi a gymmeraf frig y cedr-wŷdden vchel, ac ai gosodaf: o frig ei blagur y torraf tyner, ac mi ai plannaf ar fynydd vchel, a mawr.
23Ar vchel fynydd Israel y plannaf ef, fel y dycco frig, ac y gwnelo ffrwyth, ac y byddo yn cedr-wŷdden ardderchoc: yna pob aderyn a drigant tani hi, pob ehediad dan gyscot ei cheingciau.
24Fel y gwypo holl brennau’r maes, mai myfi r Arglwydd a ostyngais y prēn vchel, ac a dderchefais y prenn issel, a sychais y prenn ir, ac a ireiddiais y prenn crin: myfi’r Arglwydd a leferais ac a wneuthum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.