1A Naaman tywysog llu brenin Syria oedd ŵr mawr yng-olwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus, canys drwyddo ef y rhoddase yr Arglwydd ymwared i’r Syriaid: etto y gŵr cadarn nerthol hwnnw oedd wahan-glwyfus.
2Pan aethe y Syriaid allan yn finteioedd, yna y caeth-gludasent o wlâd Israel langces fechan: a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.
3A hi a ddywedodd wrth ei meistres, ô na bydde fy arglwydd i o flaen y prophwyd yr hwn yn Samaria: yna efe ai tynne ef ymmaith oi wahan-glwyf.
4Yntef a ddaeth, ac a fynêgodd iw arglwydd gan ddywedyd: fel hyn, ac fel hyn y dywedodd y llangces yr hon o wlâd Israel.
5A brenin Syria a ddywedodd, dos, cerdda ymmaith, a mi a anfonaf lythr at frenin Israel: ac efe a aeth ymmaith, ac a ddûg gyd ag ef ddêc talent o arian, a chwe mil o aur, a dêc o wiscoedd newyddion.
6Ac efe a ddûg y lythr at frenin Israel gan ddywedyd: yn awr pan ddêl y llythr hwn attat ti, wele anfonais attat ti Naaman fyng-wâs, fel y tynnit ef oi wahan-glwyf.
7A phan ddarllenodd brenin Israel y llythr, yna efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, ai Duw fi i farwhau, ac i fywhau, pan anfone efe attafi i iachau gŵr oi wahan-glwyf? gŵybyddwch gan hynny attolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.
8A phan glybu Elisêus gŵr Duw, rwygo o frenin Israel ei ddillad, yna efe a anfonodd at y brenin gan ddywedyd, pa ham y rhwygaisti dy wiscoedd? deued efe yn awr attafi, ac efe a gaiff wybod fod prophwyd yn Israel.
9Yna Naaman a ddaeth ai feirch, ac ai gerbydau: ac a safodd ddrws tŷ Elisêus.
10Ac Elisêus a anfonodd atto ef gennad gan ddywedyd: dôs, ac ymolch saith waith yn Iorddonen, a’th gnawd a ddychwel i ti, a thi a lanheuir.
11Yna Naaman a ddigllonodd, ac a aeth ymmaith: ac a ddywedodd, mi a feddyliais ynof fy hun gan ddyfod y deue efe allan, ac y safe efe, ac y galwe ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosode efe ei law ar y fann, fel yr iachâe efe y gwahan-glwyfus.
12Onid gwell yw Abana, a Pharphar afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? felly efe a drôdd, ac a aeth ymmaith mewn digter.
13Yna ei weision a nessasant, ac a lefarasant wrtho ef, ac a ddywedasant, fy arglwydd, dywedase y prophwyd beth mawr wrthit ti onis gwnelsit? pa fesur fwy gan iddo ef ddywedyd wrthit, ymolch fel yr ymlanhaech?
14Am hynny efe a aeth i wared, ac a ymdrôchodd saith waith Luc.4.27.yn yr Iorddonen yn ôl gair gŵr Duw: ai gnawd ef a ddychwelodd fel cnawd bachgen bychan, ac efe a lanhauwyd.
15Yna efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe ai holl fintai, ac efe a ddaeth, ac a safodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd, wele yn awr y gwn i nad Dduw drwy yr holl ddaiar, onid yn Israel: am hynny cymmer yn awr attolwg anrheg oddi gan dy wâs.
16Ac efe a ddywedodd, mai byw yr Arglwydd yr hwn ’r ydwyf yn sefyll ger ei frō ni chymmeraf: ac efe a gymhellodd arno ef chymmeryd, etto efe ai gwrthododd.
17A Naaman a ddywedodd, oni roddir yn awr i’th wâs di lwyth cwpl o fulod o’r ddaiar canys ni offrymma dy wâs di mwyach boeth offrwm, nac aberth i dduwiau dieithr, onid i’r Arglwydd.
18Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i’th wâs: pan ddelo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a bwysso efe ar fy llaw i, a a ddolwyf innef yn nhŷ Rimmon, pan yngrymmwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued attolwg yr Arglwydd i’th wâs y peth hyn.
19Ac efe a ddywedodd wrtho, dôs mewn heddwch: yna efe aeth oddi wrtho ef yng-hylch mill-dir o dîr.
20A Gehezi gwâs Elisêus gŵr Duw a ddywedodd, wele fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn rhac cymmeryd oi law ef yr hyn a ddugase efe: y mae’r Arglwydd yn fyw mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymmeraf ryw beth ganddo ef.
21Felly Gehezi a ganllynodd ar ôl Naaman: Pan welodd Naaman yn rhedeg ar ei ôl, yna efe a ddescynnodd oddi ar y cerbyd iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd, a yw pôb peth yn ddâ?
22Dywedodd yntef, y mae pôb peth yn ddâ, fy meistr a’m anfonodd i gan ddywedyd, wele hyn yn awr, dau langc o fynydd Ephraim, o feibion y prophwydi a ddaethant attafi: dyro yn awr iddynt dalent o arian, a dau bâr o wiscoedd.
23A Naaman a ddywedodd, bydd fodlon cymmer ddwy dalent: ac efe a fu daer arno ef, ac a rwymodd y ddwy dalent arian mewn dwy gôd, a’r ddau-bâr ddillad, ac efe ai rhoddod at ei ddau langc iw dwyn oi flaen ef.
24Pan ddaeth efe i’r bwlch, yna efe ai cymmerth oi llaw hwynt, ac ai rhoddodd i gadw yn tŷ: ac efe a anfonodd ymmaith y gwŷr, a hwy a aethant ymmaith.
25Yna efe a ddaeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr, ac Elisêus a ddywedodd wrtho ef, o ba lê Gehezi? dywedodd yntef, nid aeth dy wâs ymma na thraw.
26Ac efe a ddywedodd wrtho ef, onid aeth fyng-halon, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod ti? a amser i gymmeryd arian, ac i gymmeryd gwiscoedd, ac oliwydd-lannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion?
27Am hynny gwahan-glwyf Naaman a lŷn wrthit ti, ac wrth dy hâd yn dragywydd: ac efe a aeth ymmaith oi ŵydd ef yn wahan-glwyfus a’r eira.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.