Esay 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Prophwydoliaeth yn erbyn Moab.

1Baich Moab. Diau mai mewn noswaith y dinistriwyd y destruwiwyd Esa.13.1.Ar Moab: diau mewn noswaith y dinistriwyd, ac y destruwiwyd Cir Moab.

2Aeth i fynu i Baitha, Dibon, i’r vchelfaon i ŵylo: am Nebo, ac am Medba yr vda Moab, moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.

3Yn ei heolydd hi yr ymwregysant â sachliain, ar ei thai hi, ac yn eu heolydd yr vda hi oll: mewn wylofain y mae yn descyn.

4Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale, hyd Iahaz y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, a flina oi enioes.

5Fyng-halon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Zoar anner deir-blwydd, mewn wylofain y dring hi hyd allt Luith: canys codant waedd dinistr ffordd Horonaim.

6O herwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith, canys gwywodd y llyssiau, darfu y gwellt, nid oes gwyrdd-lesni.

7Am hynny yr hynn a weddillwyd, ai golud a ddygant i afon yr helyg.

8Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, ai hochain Beer-Elim.

9Dyfroedd Dimon a lawnwyd o waed, canys gosodaf ychwaneg ar Dimon: llewod yn erbyn y rhai ddiangant ym Moab, ac yn erbyn weddill y wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help