Lefiticus 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Trefn y poeth offrymmau 3 o eidionnau. 10 o ddefaid, neu eifr. 14 ac o âdar.

1Yna yr Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod: gā ddywedyd.

2Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt: pan ddygo dŷn o honoch offrwm i’r Arglwydd: o anifail o’r eidionnau neu o’r praidd, yr offrymmwch eich offrwm.

3Os poeth offrwm o eidion ei offrwm ef, offrymed efyn wryw perffaith-gwbl, a dyged ef wrth ei ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

4A gosoded ei law ar benn y poeth offrwm, fel y cymmerer ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur iawn trosto.

5 Leuit.9.12. Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd, a dyged meibion Aaron yr offeiriaid y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon ddrws pabell y cyfarfod.

6Yna blinged y poeth offrwm, a dryllied ef yn ddrylliau.

7A gosoded meibiō Aarō yr offeiriad dân ar yr allor, a gossodant goed ar y tân.

8A gossoded meibion Aaron yr offeiriaid y drylliau yng-hyd a’r penn, a’r gwêr ar y coed y rhai ar y tân yr hwn ar yr allor.

9Onid ei berfedd, ai draed, a ŷlch efe mewn dwfr, a’r offeiriad a lysc y cwbl ar yr allor, yn boeth offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

10Ac os o’r praidd o’r defaid, ne o’r geifr, boeth offrwm, offrymmed hwnnw yn wryw perffaith-gwbl.

11A lladded ef ger bron yr Arglwydd o du’r gogledd i’r allor, a thaenelled meibion Aaron yr offeiriaid ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12A thorred ef yn ddrylliau gyd ai ben ai wêr, a gossoded yr offeiriad hwynt ar y coed, y rhai ar y tân, yr hwn ar yr allor.

13Onid golched y perfedd, a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor, hwn sydd boeth offrwm yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

14Ac os poeth offrwm o adêryn ei offrwm ef i’r Arglwydd: yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.

15A dyged yr offeiriad ef wrth yr allor, a thorred ei bēn ef rhwng ei fŷs ai fawd, a llosged ar yr allor: a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16A thynned ymmaith ei grombil ef ynghyd ai blu, a bwried hwynt ger llaw yr allor, o du’r dwyrain i’r lle y lludw.

17Hollded ef hefyd rhwng ei adenydd na wahaned: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed y rhai ar y tân: dymma boeth offrwm yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help