1Yr ail epistol hwn yr ydwyf yn awr yn ei scrifennu attoch fy annwylyd, yn yr hwn yr ydwyf yn dadebru eich meddwl puraidd trwy adgoffau
2Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedodd y prophwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau y rhai ydym Apostolion yr Arglwydd a’n Achubwr.
3Yn gyntaf dehellwch hyn, 1.Timoth.4.1.|1TI 4:1. 2.timoth.2.1.|2TI 2:1. iud.18.y daw yn dyddiau diweddaf watwar-wŷr, y rhai a rodiant ar ôl eu trachwantau eu hunain,
4Ac a ddywedant, pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan fu farw y tadau pob peth sydd yn parhau yn yr vn modd, o ddechreuad y creaduriaeth.
5Canys hyn o’u bodd ni’s gŵyddant, fod y nefoedd er ystalm bŷd trwy air Duw, a’r ddaiar ar hefyd sydd o’r dwfr, ac yn y dŵfr.
6O herwydd pa ham y bŷd yr hwn a ydoedd y pryd hynny a gollwyd trwy ddwfr diluw.
7Eithr y nefoedd a’r ddaiar sy yr awr hon, trwy yr vn gair a roddwyd i gadw i dân erbyn dydd farn, a destruw yr anwir ddynion.
8Fy annwylyd, na fydded yr vn peth hyn yn ddirgel i chwi: Psal.94.4.fod vn dydd gyd â’r Arglwydd megis mîl o flynyddoedd, a mîl o flynyddoedd megis vn dydd.
9Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid (megis y tybia rhai am oed,) eithr ymarhous ydyw efe tu ag attom ni, ac Ezech.18.32.|EZK 18:32. & 33.11.|EZK 33:11. 1.thess.2.4.|1TH 2:4. gwele.3.3.|REV 3:3. & 16.15.ni fyn efe fôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
10Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio mewn trwst, a’r defnyddiau yn wîr o wrês a dodant, a’r ddaiar a’r gwaith a fyddo ynddi a loscir.
11A chan fôd yn rhaid i hyn eu gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fôd mewn sanctaidd ymwreddiad a duwioldeb?
12Yn disgwil, ac yn bryssio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y llysc y nefoedd, ac yr ymollwng: a’r defnyddiau gan wrês a doddant.
13Eithr yr ydym ni yn disgwil am Esay.65.17.|ISA 65:17. & 69.22.(sic.) |ISA 66:22. gweled.21.1.nefoedd newydd, a daiar newydd, ar ôl ei addewid ef, yn y rhai y cyfannedda cyfiawnder.
14Am hynny fy annwylyd, gan eich bôd yn gwilied am gyfryw bethau, rhoddwch eich bryd ar allu o honaw ef eich cael yn ddifrychau, ac yn ddilwgr mewn tangnheddyf.
15Ac am Rom.2.4.hir ammynedd ein Harglwydd, cyfrifwch mai iechyd yw, megis yr scrifennodd ein caredic frawd Paul attoch chwi yn ôl y doethineb a rodded iddo ef.
16Megis yr hwn sydd yn sôn ym mhôb epistol am y fath hyn: ym mysc y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai a ŵyra y saul sydd annyscedig, ac anwadal, fel yr scrythurau eraill er destruw iddynt eu hunain.
17Chwy-chwi am hynny fy an̄wylyd, gan eich bôd yn gwybod y pethau hyn ym mlaen llaw, gochelwch rhag eich tynnu chwithau hefyd ar gyrwydr yr anwiriaid, a chwympo oddi wrth eich sicrwydd eich hunain.
18Eithr cynnyddwch mewn grâs, ac adnabyddiaeth ein Harglwydd a’n Ceidwad Iesu Grist: i’r hwn y byddo gogoniant yr awr hon, ac yn dragywyddol byth. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.