1Dymma y gair yr hwn a lefarodd Ieremi y prophwyd wrth Baruc fab Neriah pan scrifennase efe y Ier.36.10.geiriau hynn o enau Ieremi mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Iehoacim fab Iosia brenin Iuda, gan ddywedyd:
2Fel hynn y dywedodd yr Arglwydd Dduw Israel wrthit ti Baruc:
3Tydi a ddywedaist, gwae fi yn awr, canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fyng-ofid: Psal.6.6.myfi a ddeffygiais yn fy ochain, ac ni chefais orphwystra.
4Fel hynn y dywedi di wrtho ef, yr Arglwydd a ddywedodd fel hynn, wele myfi a ddestruwiaf yr hynn a adailedais, ac mi a ddiwreiddiaf yr hynn a blennais, nid amgen yr holl wlâd hon.
5Gan hynny a geisi di fawredd i ti? na chais: canys wele myfi a ddygaf ddialedd ar bob cnawd medd yr Arglwydd, ond mi a roddaf dy enioes di Iere.21.9.yn sclyfaeth ym mha le bynnac yr elech di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
