1Yna y daeth attaf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o’m blaen.
2Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:
3Y gwŷr hyn ô fâb dŷn, a dderchafasant.Ier.10.15.yn eu calonnau, rhoddasant, hefyd dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: a attebwn i hwynt er iddynt ymorol â mi?
4Am hynny chwedleua di â hwynt, a dywet wrthynt: fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pob vn o dŷ Israel, yr hwn a dderchafa ei eulynnod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at brophwyd: myfi’r Arglwydd ai hattebaf ef pan ddelo yn 2.Thes.2.10.amlder ei eulynnod,
5Er mwyn dal tŷ Israel erbyn eu calonnau y rhai a ymddieithriasant oddi wrthif oll, trwy eu heulynnod.
6Am hynny dywet wrth dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: troiwch a dychwelwch oddi wrth eich eulynnod, a throiwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffiaidd-dra.
7Canys pob vn o dŷ Israel, ac o’r dieithr yr hwn a ymdeithio o fewn Israel, ac a ymddieithro oddi ar fy ôl i, ac a dderchafo ei eulynnod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at brophwyd i ymofyn a’m fi trwyddo ef: myfi’r Arglwydd a attebaf iddo ef trwofi fy hun.
8Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnnw, a gosodaf ef yn arwydd, ac yn ddiharebion, a gwnaf ei dorri ef ymmaith o fysc ei bobl: fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.
9Ac os twyllir y prophwyd pan lefaro air, myfi’r Arglwydd a dwyllodd y prophwyd hwnnw: ac mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac ai difethaf ef o fysc fy mhobl Israel.
10Felly y dygant eu hanwiredd, vn fath fydd anwiredd yr ymofynnudd, ac anwiredd y prophwyd:
11Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl: ac na haloger hwynt mwy yn eu holl anffyddlondeb, onid byddant i mi yn bobl, minne a fyddaf iddynt hwy’n Dduw, medd yr Arglwydd Dduw.
12A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
13Ha fab dŷn, os pecha gwlâd trwy wneuthur camwedd i’m herbyn, yna’r estynnaf fy llaw arni, Ezec.4.16. Ezec.5.17. Esa.3.1.a thorraf iddi ffon y bara, ac anfonaf arni newyn, fel y torrwyf ymmaith o honi ddyn, ac anifail.
14Pe bydde yn ei chanol y trŷ-wŷr hyn, Noah, Daniel, ac Iob, hwynt yn ei cyfiawnder a achubēt eu henaid eu hū, medd yr Arglwydd Dduw.
15Os bwysf-fil niweidiol a drosclwyddwn i’r tîr ai ddifa o hwnnw, fel y bydde yn anrhaith, heb gynniwerydd rhag ofn y bwyst-fil,
16[Pe bydde] y try-wŷr hyn yn ei ganol, byw fi medd yr Arglwydd Dduw os gwaredent feibion, na merched: hwynt hwy yn vnic a waredid, a’r tîr a fydde yn anrhaith.
17Os cleddyf a ddygwn ar y tîr hwn, a dywedyd o honof, cynniwer gleddyf trwy’r tîr, a thorr ymmaith o honaw ddyn, ac anifail,
18A’r try-wŷr hyn yn ei ganol, byw fi medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent feibion, na merched: onid hwynt hwy yn vnic a achubid,
19Os haint a anfonwn i’r wlâd hon, a thywalld o honof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymmaith ddyn, ac anifail,
20A Noah, Daniel, ac Iob yn ei chanol hi, byw fi medd yr Arglwydd Dduw, os gwaredent fab, na merch, hwynt hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun.
21Ac fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pa faint mwy pan anfonwyf Ezec.5.17.fy mhedair ddrygfarn, cleddyf, a newyn, a bwyst-fil niweidiol, a haint ar Ierusalem i dorri ymmaith o honi ddyn, ac anifail.
22Etto wele ynddi weddill diangol, y rhai a ddygir allan yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan attoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt, ai gweithredoedd, fel yr ymgyssuroch, oherwydd yr adfyd yr hwn a ddygais ar Ierusalem, sef yr hyn oll a ddygais arni.
23Ie cyssurant chwi pan weloch eu ffordd, ai gweithredoedd, a chewch ŵybod nad heb achos y gwneuthum, yr hyn oll a wneuthum iw herbyn hi, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.