Habacuc 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Gweledigaeth yn erbyn balchder, Chwant meddwdod a gau-dduwiaeth.

1Safaf ar fy nisgwilfa, ac ymsefyllaf ar y castell, ac edrychaf i weled beth a ddywed efe wrthif, a pha beth a attebaf i’m cerydd-wr.

2A’r Arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd scrifenna y weledigaeth, ac yspysa ar lechau, fel y rhedo yr hwn ai darlleno.

3Canys weledigaeth etto tros amser gosodedic, ac a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla, os erys, disgwil am deni, canys gan ddyfod y daw nid oeda.

4Wele a ymchwydda nid iniawn ei enaid ynddo, ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd ei hun.

5A hefyd gan fod y gŵr balch yn pechu win, am hynny ni pheru, yr hwn a helaetha ei feddwl fel vffern, ac yntef fel angeu ni’s digonir: onid efe a gascl atto’r holl genhedlaethau, ac a gynnull atto’r holl bobloedd.

6Oni chodant hwythau oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du iddo? a dywedyd, gwae a helaetho y peth nid eiddo ef: (pa hyd?) ac a lwytho arno y clai tew.

7Oni chyfyd yn ddisymmwth y rhai a’th frathant? ac oni ddeffru y rhai a’th chwalant? ac oni byddi yn wasarn iddynt?

8Am it yspeilio cenhedlaethau lawer, holl weddill y bobloedd a’th speilia dithe: am waed dynion, a thrais y tir, y ddinas, ac oll a drigant ynddi.

9Gwae a elwo elw drwg iw dŷ, i osod ei nyth yn vchel i ddiangc o law y drwg.

10Cymmeraist gyngor gwarthus i’th dŷ dy hun: wrth ddestruwio pobloedd lawer, a phechaist yn erbyn dy enaid.

11O herwydd y garrec a lefa o’r mûr, a’r trawst a ettyb o’r coed.

12Gwae a adailado dref trwy waed, ac a ddarparo ddinas mewn anwiredd.

13Wele onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y daw i’r bobl ymflino mewn tân? ac i’r cenhedlaethau ymddeffygio mewn coegni.

14Canys y ddaiar a lenwir o ŵybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.

15Gwae a roddo ddiod iw gymydog gan gyd-osod dy gostrel, ai feddwi hefyd er cael gweled eu noethni.

16Digonwyd ti o warth, yn lle gogoniant, yf dithe hefyd, ac ymnoetha: ymchwelir cwppan deheulaw’r Arglwydd arnat ti, a chwdiad gwarth ar dy ogoniant di.

17Canys trais Libanus a’th anhudda, ac anrhaith yr anifeiliaid ar dychryn hwynt: a achos gwaed dynion, a thrais y tîr, y dref ac oll a drigant ynddi.

18Pa lês a wnaiff delw gerfiedic? canys ei lluni-wr ai lluniodd yn ddelw, ac yn athro celwydd: o herwydd y lluni-wr a ymddyried yn ei waith ei hun, pan wneulo eulynnod mudion.

19Gwae a ddywedo wrth brenn, deffro, wrth garrec fud, cyfot, efe a rydd ddysc, wele gwiscwyd ef ag aur, ac arian: a dim anadl nid ynddo.

20Ond yr Arglwydd yn ei Deml sanctaidd: y ddaiar oll gosteg a di ger ei fron ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help