1Dymma eu Lefit.10.4. Num.3.4. & 26.60.dosparthiadau hwynt meibion Aaron: meibion Aaron Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.
2A bu farw Nadab, ac Abihu o flaen eu tâd, ac nid oedd meibion iddynt hwy: ond Eleazar, ac Ithamar a offeiriadasant.
3Yna Dafydd ai dosparthodd hwynt, a Zadoc o feibion Eleazar, ac Ahimelec o feibion Ithamar yn ôl eu swyddau yn eu gwasanaeth.
4A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraethwyr nac o feibion Ithamar, pan rannasant hwy, o feibion Eleazar yn bennau ar dŷ eu tadau vn ar bymthec, ac o feibion Ithamar yn ôl tŷ eu tadau ŵyth.
5Felly y dosparthwyd hwynt wrth goelbrennau y naill gyd a’r llall, eithr tywysogion y cyssegr, a thywysogion Duw oeddynt o feibion Eleazar, ac o feibion Ithamar.
6A Semaia mab Nathaneel yr scrifennydd o Lefi ai scrifennodd hwynt ger bron y brenin, a’r tywysogion, a Zadoc yr offeiriad, ac Ahimelec mab Abiathar a phen cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid, vn teulu a ataliwyd i Eleazar, ac a ataliwyd a ataliwyd i Ithamar.
7A’r coel-bren cyntaf aeth i Iehoiarib, a’r ail i Iedaia.
8Y trydydd i Harim: y pedwerydd i Sehorim.
9Y pummed i Melchia: y chweched i Miiamin.
10Y seithfed i Hacos: yr wythfed i Abia.
11Y nawfed i Iesua: y decfed i Secaniah.
12Yr vnfed ar ddec i Eliasib: y deuddecfed i Iacim.
13Y trydydd ar ddêc i Huppa: y pedwerydd ar ddêc i Iesebeab.
14Y pymthecfed i Bilga: yr vnfed ar bymthec i Immer.
15Y ddeufed ar bymthec i Hezir: y deunawfed i Aphses.
16Y pedwerydd ar bymthec i Pethahia: yr vgainfed i Iehescel.
17Yr vnfed ar hugain i Iachin: y ddeufed ar hugain i Gamul.
18Y trydydd ar hugain i Ddelaiahu: y pedwerydd ar hugain i Maasiahu.
19Dymma eu rhifedi hwynt yn eu gwasanaeth wrth fyned i dŷ’r Arglwydd yn ôl eu defod, tann law Aaron eu tad hwynt: fel y gorchymynnase Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20Ac o feibion Lefi y rhai a weddillasid o feibion Amram Subael, o feibion Subael Iehdeiahu.
21O Rehabia Iesia yn ben ar feibion Rehabia.
22O Izhari Selomoth: o feibion Selomoth Iahath.
23A 1.Cron.23.19.meibion Ieriahu, Amaria yn ail, Iahaziel yn drydydd Iecamiam yn bedwerydd.
24Meibion Uziel Micha: o feibion Micha Samir.
25Brawd Micha Issia, o feibion Issia Zechariahu.
26Meibion Merari Mahali a Musi, meibion Iaaziahu, Beno.
27Meibion Merari o Iaaziahu: Beno, a Soham, Zacur hefyd ac Ibri.
28O Mahali Eleazar: ac ni bu iddo ef feibion.
29O Chis: meibion Chis Ierahemeel.
30A meibion Musi Mahali, ac Eder, ac Ierimoth: dymma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.
31A hwynt a gydfwriasant goelbrennau ai brodyr meibion Aaron, ger bron Dafydd y brenin, a Zadoc, ac Ahimelec, a phennau cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid, y penn cenedl a gydfwriodd a’r brawd ieuangaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.