2.Brenhinoedd 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Duwioldeb Hezecia yn torri y sarph brês, a’r delwau eraill, ai lwyddiant. 30 Mawr-hydri a chabledd Senacherib, ai wâs Rabsacech yn erbyn Duw.

1Ac yn 2.Cron.28.27. & 29.1.y drydedd flwyddyn i Mosea fab Elath brenin Israel, y teyrnasodd Meszecia mab Abaz brenin Iuda.

2Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth efe yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Abi merch Zacharia.

3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethe Dafydd ei dâd ef.

4Efe a dynnod ymmaith yr vchelfeudd, ac a ddrylliodd eu delwau hwynt, ac a dorrodd eu llwynau: ac a faluriodd Num.21.8.y sarph brês yr hon a wnelse Moses, canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogl-darthu iddi hi, ac efe ai galwodd hi, Nehustan.

5Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddyriedodd efe: ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ym mhlith holl frenhinoedd Iuda, nac y rhai a a fuasent oi flaen ef.

6Canys efe a lŷnodd wrth yr Arglwydd, ni thrôdd efe oddi ar ei ôl ef: eithr efe a gadwodd ei orchymynnion ef y rhai a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

7Felly yr Arglwydd fu gyd ag ef, i ba le bynnac yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthyrfelodd yn erbyn brenin Assyria, ac nis gwasanaethodd ef.

8Efe a darawodd y Philistiaid hyd Azza ai therfynau 2.Bren.17.9.yn gystal pôb tŵr gwil-wyr, a phob dinas gaeroc.

9Ac 2.Bren.17.4.yn y bedwaredd ffwyddyn i’r brenin Hezecia (honno y seithfed flwyddyn i Hosea fab Elath brenin Israel) y daeth Salmaneser brenin Assyria i fynu yn erbyn Samaria, ac y gwarchaodd efe arni hi.

10Ac ym mhen y tair blynedd yr ennillwyd hi, yn y chweched flwyddyn i Hezecia: (honno y nawfed flwyddyn i Hosea br enin Israel) yr ennillwyd Samaria.

11Yna brenin Assyria a gaeth-gludodd Israel i Assyria: ac ar cyfleuodd hwynt yn Halah, ac yn Habor afon Gozan, ac yn ninsoedd y Mediaid,

12Am na wrandawsent hwy ar Iais yr Arglwydd eu Duw, eithr trosseddu o honynt hwy ei gyfammod ef yr hyn oll a orchymynnase Moses gwâs yr Arglwydd: ni wrandawent, ac nis gwnaent

13Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddêc i’r brenin Hezecia 2.Cron 32.1.|2CH 32:1. esa.36.1.|ISA 36:1. eccle.48.15.y daeth Senacherib brenin Assyria yn erbyn holl ddinasoedd caerog Iuda, ac ai hennillodd hwynt.

14Yna Hezecia brenin Iuda a anfonodd at frenin Assyria i Lachis gan ddywedyd, pechais, dychwel oddi wrthif, dygaf yr hyn a roddech arnaf: a brenin Assyria osododd ar Hezecia brenin Iuda dry-chant o dalentau arian, a dec ar hugain o dalcniau aur.

15A Hezecia a roddodd yr holl arian a’r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd: ac yn nhryssorau tŷ yr brenin.

16Yn yr amser hwnnw y torrodd Hezecia ddrysau teml yr Arglwydd, a’r colofnau y rhai a orchguddiase Hezecia brenin Iuda: ac ai rhoddes hwynt i frenin Assyria.

17A brenin Assyria a anfonodd Tharthan a Rabsaris, a Rabsaceh o Lachis yn erbyn y brenin Hezecia a llû dirfawr i Ierusalem: a hwynt a aethant i fynu, ac a ddaethant i Ierusalem, pan aethant i fynu, yna hwy a ddaethant, ac a safasant wrth aber y llynn vchaf yr hwn ym mhriffordd Esa.36.2.maes y pannwr.

18Pan alwasant hwy am y brenin, yna y daeth allan attynt hwy Eliacim mab Helcia, yr hwn benteulu: a Sobnah yr scrifennudd, ac Ioah mab Asaph y cofiadur.

19A Rabsaceh a ddywedood wrthynt hwy, Esa.36.4. 2.Cron.18.dywedwch yn awr wrth Hezecia: fel hyn y dywedodd y brenin mawr brenin Assyria, pa hyder hwn yr hwn yr ymddyriedaist ti?

20Meddwl yr ydwyt ti yn ddiau ymadrodd, cyngor, Esa.36.5.a nerth i ryfel: ar bwy yn awr yr hyderaist ti: pan wrthryfelaist i’m herbyn i?

21Wele yn awr ti a hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedic honno a’r yr Aipht, yr hon pwy bynnac a bwysso arni, yna hi a aiff i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly Pharao brenin yr Aipht i bawb a hydêrant arno ef.

22Ac os dywedwch chwi wrthif, yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddyried: onid efe yr hwn y tynnodd Hezecia ymmaith ei vchelfeudd, ai allorau, ac y dywedodd wrth Iuda, ac wrth Ierusalem, o flaen yr allor hon yr ymgrymmwch chwi yn Ierusalem?

23Ac yn awr dod wystl attolwg i’m harglwydd brenin Assyria: a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi iddo ef rai a farchogant arnynt hwy.

24( ) A pha fodd y gwrthwynebi di vn capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd? ac yr ymddyriedi di yn yr Aipht am gerbydau a gwŷr meirch?

25Ai o anfodd yr Arglwydd y deuthum i i fynu yn erbyn y lle hwn iw ddinistrio ef? yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, dos i fynu yn erbyn y wlâd hon, a dinistria hi.

26Yna y dywedodd Eliacim mab Helcia Sobna hefyd, ac Ioah wrth Rabsaceh, llefara attolwg wrth dy weisiō yn Syrian-aec, canys yr ydym ni yn deall hi: ac na lefara wrthym ni yn saith yr Iddewon lle y clywo yr bobl y rhai ar y mur.

27Ond Rabsaceh a ddywedodd wrthynt hwy, ai at dy feistr di, ac atat tithe yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? ond at y dynion y rhai ydynt yn eistedd ar y mur, fel y bwytânt eu tomm eu hun, ac yr yfant eu trwngc eu hun gyd a chwi?

28Felly Rabsaceh a safodd, ac a waeddodd a llef vchel yn iaith yr Iddewon: llefarodd hefyd a dywedodd, gwrandewch air y brenin mawr brenin Assyria.

29Fel hyn y dywedodd y brenin, na thwylled Hezecia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i.

30Ac na phared Hezecia i chwi ymddyried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi: ac ni roddit y ddinas hon yn llaw brenin Assyria.

31Na wrandewch ar Hezecia: canys fel hyn y dywedodd brenin Assyria, gwnewch fwynder a mi, a dewch attafi, yna y cewch fwyta bôb vn oi win-wŷdden ei hun, a phob vn oi ffigus-bren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun,

32Nes i’m ddyfod a’ch dwyn chwi i wlâd megis eich gwlad eich hun: gwlâd ŷd, a gwîn, gwlâd bara, a gwin-llannoedd, gwlâd olew oliwydd, a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Hezecia pan hudo efe chwi gan ddywedyd, yr Arglwydd a’ch gwared chwi.

33Gan waredu a lwyr waredodd duwiau y cenhedloedd, bôb vn ei wlâd ei hun o law brenin Assyria?

34Mae duwiau Hemath, Arphad? mae duwiau Sepharfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i?

35Pwy ym mhlith holl dduwiau y gwledydd a’r a waredasant eu gwlâd o’m llaw i’r fel y gwarede yr Arglwydd Ierusalem o’m llaw i?

36Yna y bobl a dawsant, ac nid attebasant air iddo ef: canys gorchymyn y brenin hyn gan ddywedyd, nac attebwch ef.

37Yna y daeth Eliacim mab Helcia yr hwn benteulu, a Sobna yr scrifennudd, ac Ioah mab Asaph y cofiadur ac Hezecia a gwiscoedd rhwygedic: ac a fynegasant iddo ef eiriau Rabsaceh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help