1Myfi y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.
2I dywyllwch, ac nid i oleuni yr arweiniodd, ac y tywysodd efe fi.
3Yn fy erbyn i yn ddiau y trôdd efe, y mae efe yn troi ei law beunydd.
4Efe a wnaeth fyng-nhawd, a’m croen yn hên, efe a ddrylliodd fy escyrn.
5Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac hamgylchodd â bustl ac â blinder.
6Efe a’m gosododd mewn tywyllwch, fel y rhai ydynt wedi marw byth.
7Efe a gaeodd o’m hamgylch fel nad elwyfi allan: efe a wnaeth fy lleffether i yn drom,
8Ac er galw a gweiddi o honofi, efe a omeddodd fyng-weddi.
9Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nâdd, ac a ŵyrodd fy llwybrau.
10Y mae efe yn fyng-hynllwyn arth, lew mewn lloches.
11Efe a rwystrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd, yn anrhaithiedic y gosododd efe fi.
12Efe a dynnodd ei fŵa, ac a’m gosododd fel nôd i saethu atto.
13Efe a saethodd i saethau trwy fy arennau mau fi.
14Gwatworgerdd ydywyf i’m holl bobl, ai cân hwynt ar hŷd y dydd.
15Efe a’m llanwodd â chwerwder, a’m meddwodd i a’r wermod.
16Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llŵch.
17Fy enaid a ymadawodd â heddwch, ac a anghofiodd ddaioni.
18Ac mi a ddywedais, darfu a’m fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd.
19Cofia di fy mlinder a’m gofid, y wermod, a’r bustl.
20Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ymddarostwng ynofi.
21Hyn yr ydwyf yn ei ystyried, am hynny y gobeithiaf.
22Trugaredd yr Arglwydd na ddarfu am danom ni: o herwydd ni ddarfu ei drugaredd ef.
23Bob boreu o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.
24Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid: am hynny y gobeithiaf ynddo ef.
25Daionus yr Arglwydd i’r rhai a obeithiant ynddo ef: ac i’r enaid ai ceisio ef.
26Da gobeithio, ac aros yn iechydwriaeth yr Arglwydd.
27Da i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuengtid.
28[Hwnnw] a eistedd ei hunan, ac a daw â son: am iddo ddioddef arno ef.
29Efe a ddyru ei wyneb yn y llwch a oes obaith.
30Efe a ddyru gern i’r hwn ai tarawo, efe a lenwir â gwradwydd.
31O blegit nid yn dragywydd y gwrthid yr Arglwydd.
32Canys er iddo ef gystuddio, efe a dosturia eil-waith yn ôl amlder ei drugaredd.
33Nid oi fodd y blina efe, nac y cystuddia efe ddynion,
34Gan fathru holl garcharorion y ddaiar tann ei draed,
35[A] chan ŵyro barn gŵr o flaen y Goruchaf.
36Nid yw yr Arglwydd yn gweled wneuthur cam â gŵr yn ei fatter.
37Pwy a ddywed y bydd peth heb i’r Arglwydd ei ordeinio?
38Onid o enau y Goruchaf y daw niwed a daioni?
39Pa ham yr ymofidia dŷn byw? gŵr am ei bechod.
40Ceisiwn a chwiliwn am ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd.
41Derchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd.
42Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom annufydd, tithe nid arbedaist.
43Gorchguddiaist â sorriant, ac erlidiaist ni: lleddaist heb arbed.
44Ymguddiaist mewn cwmwl fel na ddeue gweddi
45Gosodaist ni ddiystyr, ac yn ffiaidd ym mysc y bobl.
46Ein gelynnion a ledasant eu safnau arnom ni.
47Dychryn a magl, anrhaith a dinistr a daeth arnom ni.
48Fy llygad a ddiferasant ffrydau o ddwfr, o herwydd dinistr merch fy mhobl.
49Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorphywystra.
50Hyd onid edrycho, ac ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd.
51Y mae fy llygad yn blino fy enaid o herwydd holl ferched fy ninas.
52Fyng-elynnion gan hela a’m heliasant yn ddi-achos fel aderyn.
53Rhwymasant fy enioes yng-harchar: a bwriasant gerrig arnaf fi.
54Y dyfroedd a lifasant tros fy mhen, dywedais darfu am danaf.
55Gelwais ar dy enw di ô Arglwydd o’r pwll isaf.
56Ti a glywaist fy llef: na chae di dy glust rhac fy vchenaid a’m gwaedd.
57Ti a ddaethost yn nês y dydd y gelwais arnat, a ddywedaist, nac ofna.
58Ti ô Arglwydd a ddadleuaist gyd a’m henaid, a waredaist fy enioes.
59Ti ô Arglwydd a welaist fyng-ham: barna di fy matter.
60Ti a welaist eu holl ddial hwynt, ai holl amcanion i’m herbyn i.
61Clywaist eu gwaradwydd hwynt ô Arglwydd, a’r hyn oll a ddychymygasēt i’m herbyn.
62Geiriau fyng-wrthwyneb-wŷr, ai myfyrdod ydynt i’m herbyn ar hŷd y dydd.
63Edrych ar eu heisteddiad ai cyfodiad, myfi ydwyf eu cân hwynt.
64Tâl iddynt ô Arglwydd, yn ôl gweithredoedd eu dwylo.
65Dot ti iddynt ddallineb calon, dy felldith iddynt.
66Erlit ti hwynt â digofaint, a difetha hwynt oddi tann y nefoedd ô Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.