Genesis 49 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIX.Iacob yn bendithio ei feibion: ac yn Prophwydo am bôb vn o honynt. 29 yn dangos y llê y cleddyd ef. 33 Ac yn marw.

1Yna y galwodd Iacob ar ei feibion, ac a ddywedodd: ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi’r hyn a ddamweinio i chwi yn y dyddiau diweddaf.

2Ymgesclwch, a chlywch, meibion Iacob: ie gwrandewch ar Israel eich tâd.

3Ruben fyng-hynfab, ti fyngrymm, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

4Yscafnder fel dwfr, ni ragori di, canys dringaist welau dy dâd: yna yr halogaist fyng-wely a ddringodd efe.

5Simeon, a Lefi frodyr, offer trais eu hanneddau.

6Na ddeled fy enaid iw cyfrinach hwynt, fyngogoniant, na ûna ai cynnulleidfa hwynt, canys yn eu dîg y lladdasant ŵr, ac oi gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

7Melldigedic fydd eu dîg, canys tôst ai llîd, canys caled rhannaf hwynt yn Iacob, a gwascaraf hwynt yn Israel.

8Tithe Iuda, dy frodyr a’th glodforant di, dy law yng-warr dy elynion; meibion dy dâd a ymgrymmant i ti.

9Cenew llew Iuda, o’r sclyfaeth y daethost i fynu fy mâb: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hên lew, pwy ai cyfyd ef?

10Nid ymedu teyrn-wialen o Iuda, na deddf-wr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Silo: ac iddo ef vfydd-dod pobloedd.

11Efe a rwym ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei assyn wrth y bêr win-wydden: golchodd ei wisc mewn gwîn, ai ddillad yng-waed y grawn-wîn.

12Côch ei lygaid gan wîn, a gwyn ei ddannedd gan laeth.

13Zabulon a bresswylia ym-mhorthloedd y môr, ac efe a fydd yn borthfa llongau, ai ystlys fydd hyd Sidon.

14Issacar yn assyn ascyrnoc, a orwedd rhwng dau bwnn.

15Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r ddaiar mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i gludo, ac a fydd yn gaeth tann deyrnged.

16Dan a farn ei bobl fel vn o lwythau Israel.

17Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

18Am dy iachadwriaeth di y disgwyliaf Arglwydd,

19Gad, llu ai anrheithia, ac yntef a anrheithia o’r diwedd.

20Am Asser bras ei fwyd ef, ac efe a rydd ddaintethion brenhinol.

21Nephthalim ewig, wedi ei gollwng yn rhoddi geiriau têg.

22Ioseph gangen yn cynnyddu, cangen yn cynnyddu wrth ffynnon ceingciau yn cerdded ar hyd mûr.

23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac ai casauasant ef.

24Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant: o ddwylo crŷf Iacob: oddi yno y bugail, maen Israel.

25Oddi wrth Dduw dy dâd, canys ef a’th gynnorthwyodd di, a’r holl alluoc, canys ef a’th fendithiodd, a bendithion y nefoedd oddi uchod, a bendithion y dyfnder yn gorwedd issod, a bendithion y bronnau a’r grôth.

26Rhagorodd bendithion dy dâd fendithion fy rhieni hyd derfyn brynniau tragywyddoldeb: byddant ar ben Ioseph, ac ar goryn yr hwn a nailltuwyd oddi wrth ei frodyr.

27Beniamin a sclyfaetha blaidd, y boreu y bwyttu’r sclyfaeth, ac ar bryd nawn y rhan yr yspail.

28Dymma ddeuddec llwyth Israel oll, ac dymma’r hyn a lefarodd eu tâd wrthynt, felly y bendithiodd efe hwynt: pôb vn ŷn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

29Yna y gorchymynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, myfi a gesclir at fy mhobl, cleddwch fi gyd a’m tadau, yn yr ogof yr hon ym maes Ephron yr Hethiad.

30Yn yr ogof yr hon ym maes Machpela, yr hon ar gyfer Mamre, yng-wlâd Canaan, yr hon a brynnodd Abraham gyd a’r maes gan Ephron yr Hethiad, yn etifeddiaeth beddrod.

31Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig, yno y claddasant Isaac a Rebecca ei wraig, ac yno y cleddais i Lea.

32Meddiant y maes ar ogof yr hon ynddo gan feibion Heth.

33Pan orphennodd Iacob orchymyn iw feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw a chasglwyd ef at ei bôbl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help