Esay 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Prophwydoliaeth am ddinistr Tyrus ai hail gyweiriad.

1Baich Tyrus. llongau Tharsis vdwch, canys anrheithiwyd fel nad oes dŷ i fyned iddo: o dîr Cittim yr ymddangosodd iddynt.

2Distewch drigolion yr ynys, marchnadyddion Zidon yn tramwy’r môr a’th lanwasant.

3Hâd Nilus hefyd wrth ddyfroedd lawer, a chynhaiaf yr afon ei chnwd hi: felly marchnad y cenhedloedd ydoedd hi.

4Cywilyddia Zidon, canys y môr, cryfder y môr a lefarodd gan ddywedyd: nid ymddygais, ac nid escorais, ni fegais wŷr ieuaingc ychwaith, ac ni feithrinais forwynion.

5Pan glywir ym mhlith yr Aiphtiaid, hwynt a ymofidiant pan glywer sôn am Tyrus.

6Ewch trosodd i Tharsis, vdwch, bresswyl-wŷr yr ynys.

7Ond hon yw eich chwi, fu ogoneddus er ystalm byd? ei thraed ai harweiniant hi i ymdaith ym mhell.

8Pwy a ddychymmygodd hyn yn erbyn Tyrus goronoc? yr hon ei marchnadyddion yn dywysogion, ai marsiand-wŷr yn bendefigion y bŷd.

9Arglwydd y lluoedd a ddychymmygodd hyn, i ddifwyno balchder pôb gogoniant, i ddirmygu holl bendefigion y bŷd.

10Dos drwy dy wlâd fel afon ferch Tharsis, nid nerth mwyach.

11Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd, gorchymynnodd yr Arglwydd am Canaan, sef ddinistrio ei nerth hi.

12Ac efe a ddywedodd, na chwanega ymffrostio mwyach yr orthrymedic forwyn merch Zidon, cyfot dos i Cittim: yno ychwaith ni bydd it lonyddwch.

13Wele dîr y Caldeaid, nid oedd y bobl hyn yno: Assur ai sylfaenodd hi i drigolion yr anialwch, derchafasant ei thŷrau, cyfodasant ei phalasau, efe ai tynnodd hi i lawr.

14Llongau Tharsis vdwch: canys anrheithiwyd eich nerth.

15A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng-mhlynedd a thrugain, megis dyddiau vn brenin: ym mhen y deng-mhlynedd a thrugain y cân Tyrus megis puttain.

16Cymmer y delyn, amgylchyna’r ddinas ti buttain anghofiedic, cân gerdd yn dda, a datcan lawer fel i’th gofier.

17Ac ym mhen y deng-mhlynedd a thrugain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei hêlw, ac a butteinia â holl deyrnasoedd y bŷd ar wyneb y ddaiar.

18Yna y bydd ei marchnad ai hêlw yn gyssegredic i’r Arglwydd, ni’s cedwir, ac ni’s cuddir, canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei mersiandiaeth, i fwytta hyd ddigon, ac yn wisc barhaus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help