Aggeus 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Dannod y mae efe nad adailadasent Deml yr Arglwydd.

1Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Darius yn y chweched mîs, ar y dydd cyntaf o’r mîs y daeth gair yr Arglwydd trwy law Aggeus y prophwyd at Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda: ac Iosua fab Iosedec yr arch-offeiriad gan ddywedyd,

2Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd, y bobl hyn a ddywedant, ni ddaeth amser, pryd adeiladu tŷ’r Arglwydd.

3Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Aggeus y prophwyd gan ddywedyd:

4Ai amser i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedic: a’r tŷ hwn yn anghyfannedd?

5Fel hyn gan hynny y dywed Arglwydd y lluoedd: yr awran ystyriwch eich ffyrdd.

6Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig, bwyttasoch, ond nid hyd ddigon: yfasoch, ac nid hyd fod yn ddiwall: gwisgasoch ac nid hyd glydwr iddo, a’r hwn a ymgyflogo sydd yn casclu cyflog i gôd dylloc.

7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ystyriwch eich ffyrdd.

8Derchefwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ, 1.Bren.8.21,29.a mi a ymfodlonaf ynddo, ac i’m gogoneddir medd yr Arglwydd.

9Edrychasoch am lawer, ac wele yn ychydig, dygasoch adref, a chwythais arno: am ba beth medd Arglwydd y lluoedd? am y tŷ mau fi’r hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun.

10Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd wlitho arnoch, a gwaharddwyd i’r ddaiar roddi ei ffrwyth.

11Gelwais hefyd am sychder ar y ddaiar, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd, ac ar y gwîn, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaiar allan: ar ddŷn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.

12Gwrandawodd Zorobabel mab Salathiel, ac Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Aggeus y prophwyd, megis yr anfonodd eu Harglwydd Dduw hwynt ef: a’r bobl a ofnasant ger bron yr Arglwydd.

13Yna Aggeus cennad yr Arglwydd a ddywedodd oddi wrth yr Arglwydd, wrth y bobl, gan ddywedyd, fi gyd â chwi medd yr Arglwydd.

14Felly y cyffrôdd yr Arglwydd yspryd Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda, ac yspryd Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, ac yspryd holl weddill y bobl, fel yr aethant, ac y gweithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help