1Gwae’r meibion gildynnant medd yr Arglwydd i wneuthur cyngor, a nid o honnofi: ac i geisio cymmorth, a nid o’r yspryd mau fi, er mwyn chwanegu pechod ar bechod:
2Y rhai sydd yn myned i ddescyn i’r Aipht, heb ymofyn â mi, gan ymnerthu yn nerth Pharao, ac ymddyried yng-hyscod yr Aipht.
3Canys nerth Pharao fydd yn gywilydd î chwi, a’r ymddyried yng-hyscod yr Aipht yn wradwydd.
4Canys bu ei dywysogion yn Zoan, ai gennadau a ddaethant i Hanes.
5Pob vn a gywilyddir o herwydd y bobl, ni fuddiant iddynt, ni yn gynnorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth, ac yn wradwydd.
6Baich anifeiliaid y dehau: mewn tîr cystudd, ac ing, o honynt yr hen lew, a’r llew ieuangc, y wiber, a’r sarph danllyd a ddygant eu golud ar gefnau assynnod, ai tryssorau ar gefnau camelod, at bobl ni wnant lês.
7Canys diwin yw yr Aiphtiaid, ac yn ofer y cynnorthwyant, am hynny y llefais ar hon, eu nerth hwynt aros yn llonydd.
8Dos yn awr, yscrifenna hyn mewn llech iddynt, îe scrifenna ef mewn llyfr, ac efe fydd hyd y dydd diweddaf, yn oes oesoedd.
9Canys dymma bobl wrthryfelgar plant celwyddoc, plant ni fynnant wrando cyfraith yr Arglwydd.
10Y rhai a ddywedasant wrth y rhai a welant, na welwch, ac wrth y rhai a ganfyddant, na chanfyddwch i ni gymwysdra: treuthwch i ni weniaith, cenfyddwch i ni siomedigaeth.
11Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr, perwch i Sanct Israel beidio â ni.
12Am hynny, fel hyn y dywed Sanct Israel, am wrthod o honoch y gair hwn, ac ymddyried o honoch mewn twyll, a cham, a phwyso ar hynny:
13Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedic ar syrthio mewn mur vchel: yr hon y daw ei drylliad yn ddisymmwth heb attrec.
14Canys efe ai dryllia hi, fel dryllio stên crochenydd, gan guro heb arbed, fel na chaffer ym mysc ei darnau gragen i gymmeryd tân o’r aelwyd, nac i dynnu dwfr o’r ffôs.
15Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw Sanct Israel, drwy orphywysdra a llonyddwch y byddwch gadwedic, mewn llonyddwch, a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.
16Eithr dywedasoch, nid canys ffoiwn ar feirch, am hynny y ffoiwch: a marchogwn ar buan, am hynny y bydd yscafnach y rhai a’ch erlidio.
17Mil rhac ofn vn, a rhac ofn pump y ffoiwch hyd oni i’ch gadawer, megis hwyl-bren ar benn mynydd, ac fel baner ar frynn.
18Ac am hynny y disgwil yr Arglwydd am drugarhau wrthych, îe am hynny’r ymdderchyf i dosturio wrthych: canys Duw cyfiawn Arglwydd, gwyn eu byd y rhai oll a obethiant ynddo.
19Canys pobl a drig yn Sion o fewn Ierusalem: gan ŵylo nid ŵyli, gan drugarhau efe a drugarha wrthit, pan wrandawo efe ar lêf dy waedd, efe a’th atteb di.
20A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing, a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon:
21A’th glustiau a glywant y gair o’th ôl yn dywedyd, dymma’r ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddehau, neu pan bwysoch ar y llaw asswy.
22Yna’r halogwch ball dy gerf-ddelw arian, ac Ephod dy dawdd-ddelw aur, gwasceri hwynt fel mis-glwyf, a dywedi wrthynt, dos ymmaith.
23Ac efe a rydd law i’th hâd, pan hauech dy dîr, a bara cnwd y ddaiar fydd yna’n dew, ac yn frâs, a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid borfa helaeth.
24Dy ŷchen hefyd a’th assynnod y rhai a lafuriant y tir a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwintill ac â gogr.
25Bydd hefyd ar bob mynydd vchel, ac ar bob brynn derchafedic ffrydau dyfroedd yn afonydd yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio yr tŷrau.
26A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod: yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachâ archoll eu dyrnod hwynt.
27Wele enw’r Arglwydd yn dyfod o bell, ei ddigofaint ef sydd yn llosci, ai losciad sydd drwm: ei wefusau a lawnwyd o ddigter, ai dafod megis tân yssol.
28Ei yspryd hefyd megis afon lifeiriol a gyredd hyd y gwddf, i nithio y cenhedloedd â gogr oferedd, ac yn ffrwyn yng ênau’r bobloedd yn gyrru ar gyfeiliorni.
29Y gân fydd gennych megis y noswaith yr ymsancteiddir vchel-ŵyl, a llawenydd calon megis yr hwn elo â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd at gadarn yr Israel.
30A’r Arglwydd a wna glywed ardderchawgrwydd ei lais, ac a ddengys ddescynniad ei fraich mewn digter llidioc a fflam dân yssol, a gwascariaeth, ac â chorwynt, ac â cherrig cenllysc.
31Canys â llais yr Arglwydd y destruwir Assur a darawe â’r wialen.
32A pha le bynnac yr elo efe, y wialen a ymlyn yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef, gyd â thympanau, â thelynau: ac â rhyfel tôst yr ymladd efe yn ei erbyn.
33Canys darparwyd vffern er doe, îe paratoiwyd hi i’r brenin, efe ai dyfnhaodd hi, ai ehangodd ei chynneuad dân a choed lawer, anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan sydd yn ei hennyn hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.