1 Rufei.12.10. Parhaued cariad brawdol.
2Nac 1.Pet.4.9.anghofiwch fod yn lletteugar: canys felly y Cen.18.3.(sic.)lletteuodd rhai angelion heb wybod.
3Meddyliwch am y rhai sy mewn rhwymau, fel pe baech yn rhwym gyd ag hwynt: rhai cystuddiol, fel rhai yn bod yn y corph
4Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, ar gwelŷ dihalogedic: eithr y putteinwyr a’r rhai godinebus a farna Duw.
5Bydded eich ymwreddiad yn ddi serch i arian, gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych yn bresennol, canys efe a ddywedodd, ni Iosua 1.9.phallaf i ti, ac ni’s gadawaf di chwaith:
6Fel y gallom ddywedyd yn hyf, Psal.118.6.yr Arglwydd sydd gymmorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.
7Meddyliwch am eich preladiaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: calynwch eu ffydd hwynt, gan ystyr beth yw diwedd eu hymwreddiad hwynt.
8Iesu Grist ddoe a heddyw: yr vn hefyd yn dragywydd.
9Nedwch eich dwyn o amgylch ag athrawiaethau amryw, a dieithr: canys da ydyw cadarnhau yr galon â grâs, ac nid â bwydydd, y rhai ni thycciasant i’r rhai a rodiasant ynddynt.
10Y mae gennym ni allor o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasaneuthu yn y tabernacl i fwyta.
11 Leuit.4.12. Canys yr anifeiliaid y rhai a ddwg yr archoffeiriad i’r cyssegr tros bechod, cyrph y rhai hynny a loscir o’r tu allan i’r gwersyll.
12Ac am hynny yr Iesu hefyd i sancteiddio’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd o’r tu allan i’r porth.
13Am hynny awn atto ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei wradwydd ef.
14 Micheas 2.10. O blegit nid oes i ni ymma ddinas barhaus, eithr yr ydym ni yn ceisio yr hon a fydd.
15Offrymmwn o blegit hynny yn oestadol trwyddo ef aberth moliant i Dduw, hynny yw, Hos.14.2.ffrwyth gwefusau, yn cyffessu ei enw ef.
16Nac anghofiwch gyweithasrwydd a chyfranniad, canys â chyfryw ebyrth y bodlonir Duw.
17Ufuddhewch eich preladiaid, ac ymddarostyngwch: o blegit gwilio y maent tros eich eneidiau chwi, megis rhai fydd rhaid iddynt roddi cyfrif, fel y gallant wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd hynny i chwi.
18Gweddiwch trosom ni: canys yr ydym yn hyderus fod gennym ni gydwybod dda ym mhob peth, gan chwennychu byw yn onest.
19Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur o honoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi trachefn yn gynt.
20Duw yr heddwch yr hwn a ddug trachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, bugail mawr y defaid, trwy waed cyfammod tragywyddol,
21A’ch gwnelo yn berffaith ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef, trwy weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef trwy Iesu Grist, i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi ô frodyr goddefwch air y cyngor, o blegit ag ychydig yr scrifennais attoch.
23Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd, gyd â’r hwn, o daw efe ar fyrder yr ymwelaf â chwi.
24Annerchwch eich preladiaid oll, a phawb o’r sainct, y mae yr Italiaid yn eich cyfarch chwi.
25Grâs fyddo gyd â chwi oll. Amen.
O’r Idal yr scrifennwyd hwn at yr Hebræaid gyd â Thimotheus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.