2.Cronicl 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Teyrnasiad Iotham ar Iuda.

1Mab pum mlwydd ar hugain 2.Bren.15.33.[oedd] Iotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Ierusa merch Zadoc.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd yn ôl yr hyn oll a wnelse Uzzia ei dâd ef, eithr ni ddaeth efe i deml yr Arglwydd: a’r bobl oeddynt etto yn ymlygru.

3Efe a adailadodd y porth vchaf i dŷ’r Arglwydd: ac ar fûr y tŵr yr adailadodd efe lawer.

4Dinasoedd hefyd a adailadodd efe ym mynyddoedd Iuda: ac yn y coedydd yr adailadodd efe balâsau, a thŷrau.

5Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac ai gorthrechodd hwynt, a meibion Ammon a roddasant iddo ef gant talent o arian yn y flwyddyn honno, a deng-mil Corus o wenith, a deng-mil Corus o haidd: hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd.

6Felly Iotham a ymgadarnhaodd: canys efe a baratôdd ei ffyrdd ger bron yr Arglwydd ei Dduw.

7A’r rhan arall o hanes Iotham, ai holl ryfeloedd ef, ai lwybrau ef: wele y maent yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel ac Iuda.

8Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu: ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem.

9Ac Iotham a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd: ac Ahaz ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help