1Pan 1.Bren.12.21.ddaeth Rehoboam i Ierusalem, yna efe a gasclodd o holl dŷ Iuda, ac o Beniamin gant, a phedwar vgain mil dewisol cymmwys i ryfel: i ymladd ag Israel, i ddwyn trachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.
2Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaiahu gŵr Duw gan ddywedyd:
3Dywet wrth Rehoboam fab Salomon brenin Iuda: ac wrth holl Israel o fewn Iuda a Beniamin, gan ddywedyd,
4Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, nac ewch i fynu, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr, dychwelwch bob vn iw dŷ ei hun, canys drwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn: a hwynt a wrandawsant ar eiriau’r Arglwydd, ac a ddychwelasant heb fyned yn erbyn Ieroboam.
5A Rehoboam a drigodd yn Ierusalem: ac a adailadodd ddinasoedd cedyrn yn Iuda.
6Ac efe a adailadodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa.
7Bethzur hefyd, a Socho, ac Adulam.
8Gath hefyd, a Maresa, a Ziph.
9Adoraim hefyd, a Lachis, ac Azecah.
10Zorah hefyd, ac Aialon, a Hebron y rhai yn Iuda, ac yn Beniamin: dinasoedd caeroc.
11Ac efe a gadarnhaodd yr amddeffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwîn.
12Ac ym mhob dinas dariannau, a gwaiw-ffyn, ac ai cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn: ac eiddo ef oedd Iuda, a Beniamin.
13A’r offeiriaid, a’r Lefiaid y rhai yn holl Israel a safasant wrtho ef oi holl derfynau.
14Canys y Lefiaid a wrthodasant eu meusydd pentrefol, ai meddiant, ac a aethant i Iuda, ac i Ierusalem: Pen.13.9.canys Ieroboam ai feibion ai bwriase hwynt ymmaith o fod yn offeiriaid i’r Arglwydd.
15Ac 2.Bren.12.31.(sic.)efe a osododd iddo ef offeiriaid i’r vrhelfeudd, ac i’r Esa.34.14.cythreuliaid: ac i’r lloi y rhai a wnaethe efe.
16Ac ar eu hôl hwynt o holl lwythau Israel (y rhai oeddynt yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel) a ddaethant i Ierusalem i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau.
17Felly hwynt a gadarnhausant frenhiniaeth Iuda, ac a nerthasant Rehoboam fab Salomon dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd, a Salomon, yng-hyfod tair blynedd.
18A Rehoboam a gymmerth Mahalath serch Ierimoth fab Dafydd yn wraig iddo: Abihail ferch Eliab fab Isai.
19A hi a ymddug iddo ef feibion: sef Ieus, a Semaria, a Zaham.
20Ac ar ei hôl hi efe a gymmerth Maacha ferch Absalom: a hi a ymddug iddo ef Abiiah, ac Atthai, a Ziza, a Selomith.
21A Rehoboam a garodd Maacha ferch Absalom yn fwy nai holl wragedd, ai ordderch wragedd, canys deu-naw o wragedd a gymmerth efe, a thri vgain o ordderchadon: ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thri vgain o ferched.
22A Rehoboam a osododd Abiiah fab Maacha yn benn blaenor ar ei frodyr: canys ei vrddo ef yn frenin.
23Ac efe a fu gall, ac a wascarodd oi feibion i holl wledydd Iuda, a Beniamin, ac i’r holl ddinasoedd caeroc, ac a roddes iddynt hwy lynniaeth yn aml: ond efe a geisiodd liaws o wragedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.