1 Rhuf.10.20. Yspysswyd fi i’r ni ofynnasant am cafwyd fi gan ni’m ceisiasant: dywedais, wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwodd ar fy enw.
2Estynnais fy llaw hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid dda, yn ôl eu meddyliau eu hun.
3Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fyng-ŵydd, yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogl-darthu ar bridd-lechau,
4Y rhai a arhoent ym mysc y beddau, ac a letteuent yn y gwilfeudd, y rhai a fwyttaent gîg môch, ac iscell ffiaidd gig eu llestri,
5Y rhai a ddywedent, nessa attat, na nessa attafi, canys sancteiddiach ydwyf nâ thi, y rhai hyn fŵg yn fy ffroenau, thân yn llosci ar hŷd y dydd.
6Wele scrifennwyd ger fy mron, ni thawaf: eithr talaf îe talaf yn eu monwes.
7Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau chwi yng-hyd medd yr Arglwydd: y rhai a fwg-darthasant ar y mynyddoedd, ac a’m cablasant ar y brynnau: am hynny y messuraf eu hên weithredoedd hwynt iw monwes.
8Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, megis y ceir gwin mewn cangen o rawn, ac y dywedir, na ddifwyna hi, canys rhâd ynddi: felly y gwnaf er mwyn fyng-weision, na ddifwyner y cwbl.
9Eithr dygaf hâd allan o Iacob, ac o Iuda a etifeddo fy mynyddoedd: yna fy etholedigion ai hetifeddant, a’m gweision a drigant yno.
10Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glynn Ackor yn orweddfa gwarthec i’m pobl y rhai a’m ceisiant.
11Ond chwi y rhai a wrthodasoch yr Arglwydd, y rhai a anghofiasoch fy mynydd sanctaidd, y rhai a arlwyasoch fwrdd, ac a lanwasoch ddiod offrwm i’r planedau.
12Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth, o herwydd gelwais chwi, ac nid attebasoch, lleferais, ac ni wrandawsoch, gwnaethoch hefyd ddrygioni yn fyng-olwg, a dewisasoch yr hyn ni fynnaswn.
13Am hynny fel hynn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele fyng-weision a fwyttant, a chwithau a newynwch: wele, fyng-weision a yfant, a chwithe a sychedwch: wele fyng-weision a lawenychant a chwitheu a gywilyddir.
14Wele fyng-weision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhac gofid calon, ac a vdwch rhac ysigtod yspryd.
15A’ch enw a adewch yn rhegen ym mysc fy etholedigion, canys yr Arglwydd Dduw a’ch ladd chwi, ac a eilw ei weision enw arall.
16Yr hwn a ymfendigo ar y ddaiar a ymfendiga yn y gwîr Dduw, a’r hwn a dyngo ar y ddaiar, a dwng i’r gwîr Dduw: am anghofio y trallodau cyntaf, ac am ymguddio o honynt o’m golwg.
17Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daiar newydd, a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylîr am danynt.
18Eithr llawenychwch, a gorfoleddwch yn dragywydd, y rhai a grewyfi, canys wele fi yn creu Ierusalem yn orfoleddus, ai phobl yn llawen.
19Gorfoleddaf hefyd yn Ierusalem, a llawenychaf yn fy mhobl, ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.
20Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na henaf-gwr yr hwn ni chyflawna ei ei ddyddiau, canys y bachgen fydd marw yn fab can-mlwydd, a’r pechadur yn fab can-mlwydd a felldithir.
21Yna’r adailadant dai, ac y cyfanneddant: plannant hefyd winllannoedd, a bwyttânt eu ffrwyth.
22Nid adailadant fel y cyfanneddo arall, ac ni phlannant fel y bwyttao arall: eithr megis dyddiau’r pren dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a fwynhânt waith eu dwylo.
23Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant mewn dychryn, canys hâd rhai bendigedic yr Arglwydd hwy ai heppil gyd â hwynt.
24A bydd cyn galw o honynt, i mi atteb, a hwynt etto yn llefaru mi a wrandawaf.
25Y blaidd a’r oen a borant yn gydtûn, y llew fel ŷch a bawr wellt: ond am y sarph llwch ei bwyd hi: ni ddrygant, ac ni lygrant yn fy holl fynydd sanctaidd medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.