Esay 57 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LVII.Marwolaeth y duwiol. 3 Cerydd yr annuwiol. 18 Cyssur yr edifeiriol.

1Darfu am y cyfiawn, ac nid ystyriodd neb, a’r gwŷr trugarog a gasclwyd ymmaith, heb ddeall mai o flaen drygfyd y casclwyd y cyfiawn.

2[Y cyfiawn] a ddaw i dangneddyf, hwynt a orphwysant yn eu stafelloedd ar a rodiodd ger ei fron ef.

3Nessewch ymma meibion yr hudoles hâd y godinebus, a’r buttain.

4Yn erbyn pwy’r ymddigrifwch, yn erbyn pwy y lledwch safn yr estynnwch dafod? onid meibion camweddol, a hâd geuoc chwi?

5Y rhai a ymwressogwch ym mysc y llwyni tann bob pren deilioc, gan Lefit.18.21. 2 Bren.23.20.aberthu y plant yn y glynnoedd, tann gromlechydd y creigiau.

6Yng-habolfaen yr afon dy rann, hwynt hwy dy goel-bren: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod offrwm, yr offrymmaist fwyd offrwm, ai am y rhai hynn yr ymgyssuraf?

7Ar fynydd vchel a derchafedic y gosodaist dy wely, dringaist hefyd yno i aberthu aberth.

8Yng-hîl y drws hefyd, a’r orsyn: y gossodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist oddi wrthif fi, a dringaist, helaethaist dy wely, a thi a wnaethost ammod rhyngot ti â hwynt, ti a hoffaist eu gorweddle hwynt lle ar y gwelaist.

9Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag olew, ac amlheaist dy eliau: anfonaist hefyd dy gennadau i bell, ac ymostyngaist hyd vffern.

10Yn amlder dy ffordd yr ymflinaist heb ddywedyd, nid oes obaith, cefaist y bywyd a fynnit, am hynny ni chlafychaist.

11Pwy hefyd a arswydaist, ac a ofnaist? gan ddywedyd o honot gelwydd, ac na chofiaist fi, nac ystyriaist yn dy galon, ai o herwydd fy mod i yn tewi a sôn er ystalm yr ydwyt ti heb fy ofni?

12Myfi a fynegaf dy gyfiawnder a’th weithredoedd, ac ni wnant it lês,

13Pan waeddech gwareded y rhai a gesclaist yng-hyd dy di, eithr gwynt ai dwg hwynt ymmaith oll, oferedd ai cymmer hwynt: a’r hwn a obeithia ynofi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.

14Ac efe a ddywed, palmentwch, palmentwch, cymhwyswch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.

15Canys fel hyn y dywedodd y goruchel, a’r derchafedic, yr hwn a bresswylia dragywyddol, ac ei enw’n sanctaidd: y goruchelder a’r cyssegr a bresswyliaf, a chyd a’r cystuddiedic a’r isel o yspryd, i fywhau y rhai issel o yspryd, ac i fywhau y rhai cystuddiedig o galon.

16Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf, o herwydd yr yspryd o’m blaen i a ymwisc mewn corph, ac myfi a wneuthum yr anadl.

17Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y tarewais ef, gan ymguddio pan ddigiais, canys efe a aethe’n gildynus, ar hŷd y ffordd a fynne.

18Ei ffordd a welais, a mi ai iachâf ef, tywysaf ef hefyd, a thalaf gyssur iddo ef, ac iw alarwŷr.

19Gan greu ffrwyth gwefusau, yn heddwch heddychlon i bell, ac i agos medd yr Arglwydd, fel yr iachauwyf ef.

20A’r rhai anwir fel môr yn dygyfor, canys ni ddichon ostegu, ai ddyfroedd, a fwrw allan dom, a chlai.

21Ni heddwch medd fy Nuw i’r rhai annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help