Psalmau 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxiiij.Domini est terra, et plenitudo.Psalm Dafydd

1 Eiddo Deut.10.14|DEU 10:14. Iob.28.24. 1.Cor.10.26.yr Arglwydd y ddaiar, ai chyflawnder: y bŷd, ac a bresswylia ynddo.

2Canys efe ai seiliodd ar y môroedd: ac ai paratôdd ar yr afonydd.

3Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?

4Y diniwed ddwylo, a’r glân galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo

5Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6Dymma genhedlaeth y rhai ai ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob.Selah.

7O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8Pwy yw yr brenin gogoneddus hwnnw? yr Arglwydd nerthol, a chadarn: yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.

9O byrth, derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10Pwy yw’r brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe brenin y gogoniant.Selah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help