Esay 48 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVIII.Ffugioliaeth yr lddewon. 11 A Duw yn maddeu iddynt, ac yn eu gwared er ei fwyn ei hunan.

1Gwrandewch hyn tŷ Iacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Iuda, y rhai dyngant i enw’r Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder.

2Er eu henwi o’r ddinas sanctaidd, a phwyso ohonynt ar Dduw Israel, enw yr hwn Arglwydd y lluoedd.

3Y pethau cyntaf a fynegais er y pryd hynny, a ddaethant o’m genau, ac a draethais, a wnaethum yn ddisymmwth, daethant i benn.

4O herwydd i mi ŵybod dy ti yn galed, a’th warr geûn haiarn, a’th dalcen yn brês.

5Am hynny y mynegais i ti er y pryd hynny, adroddais it cyn ei ddyfod, rhac dywedyd o honot, fy nelw a wnaeth hynny, fyng-herfddelw, a’m tawdd ddelw a ordeinodd hynny.

6Clywaist wele ef oll, oni fynegwch chwitheu adroddais it bellach bethau newyddion, a phethau cuddiedic y rhai ni wyddit oddi wrthynt.

7Yn awr y creuwyd hwynt, ac nid er y pryd hynny, cyn heddyw ni chlywaist sôn am danynt: rhac dywedyd o honot, wele gwyddwn hynny.

8Ie nis clywsit, ac nis gwyddit ychwaith, nid agorasit dy glust y pryd hynny, canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon: am hynny o’r groth i’th alwyd yn gamweddol.

9Er mwyn fy enw’r oedaf fy llîd, ac fy mawl yr attaliaf oddi wrthit heb dy ddifetha.

10Wele myfi a’th burais, ond nid fel arian, dewisais di mewn pair cystudd.

11Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun y gwnaf (canys onide a halogid, diau ni roddaf fyng-ogoniant i arall.

12Gwrando arnafi Iacob, ac Israel yr hwn a elwais: myfi fy hun gyntaf, a mi fy hun y diwethaf.

13Fy llaw hefyd a seiliodd y ddaiar, a’m deheulaw a ddyrnfeddodd y nefoedd: pan alwyfi arnynt cyd-safant.

14Ymgesclwch chwi oll a gwrandewch pwy o honynt hwy a fynegodd hyn? yr Arglwydd yr hwn ai hoffa ef a wna ei ewyllys ar Babilon, ai fraich ef y Caldeaid.

15Myfi, myfi a leferais, ac ai gelwais ef: dygais ef, ai ffordd a lwydda.

16Nessewch attaf, gwrandewch hyn, ni leferais o’r cyntaf mewn ddirgelwch er y pryd y mae hynny’r inne yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw ai Yspryd a’m hanfonodd.

17Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy waredudd, Sanct Israel, myfi’r Arglwydd dy Dduw yn dy ddyscu di i wellhau, gan dy arwein yn y ffordd a rodiech.

18O na wrandawsit ar fyng-orchymynnion, yna y buase dy lwyddiant fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau’r môr.

19Yna y buase dy hâd fel tyfod, ac eppil dy gorph fel ei raian ef: ni thorryd, ac ni ddinistrid ei enw oddi ger fy mron.

20Ewch allan o Babilon, ffoiwch oddi wrth y Caldeaid, mynegwch, adroddwch hyn â llêf gorfoledd: treuthwch ef hyd eithafoedd dy ddaiar: dywedwch, gwaredodd yr Arglwydd ei wâs Iacob.

21Ac ni sychedasant yn yr anialwch, arweiniodd hwynt, gwnaeth i ddwfr bistyllu iddynt o’r graig: canys holltodd y graig, a’r dwfr a ddiferodd.

22Nid heddwch (medd yr Arglwydd) i’r rhai annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help