Iaco 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.2 Y mae Iaco ymma yn rhoddi cyngor i fod yn llawen mewn blinder. 6 I fod yn ystic mewn gweddi trwy ffydd gadarn. 17 I ddisgwil am bôb daioni oddi vchod. 21 I ymwrthod ag oll gamweddau, ac yn ddiolchus i dderbyn gair Duw. 22 Nid yn vnic trwy ei wrando, neu son am dano, eithr hefyd gan fucheddu yn gytun ag ef. 27 Ac y mae yn dangos beth yw gwir grefydd.

1 Iaco gwasanaethwr Duw ar Arglwydd Iesu Grist at y deuddecllwyth gwascaredic, annerch.

2Cymmerwch yn lle dirfawr lawenydd fy-mrodyr pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau:

3 Pôb dawn daionus a phôb rhodd berffaith oddi vchod y mae yn descyn oddi wrth dâd y goleuni, gyd a’r hwn nid oes trasymydigaeth, na chyscodiad troêdigaeth.

18O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y gallem fod megis blaen-ffrwyth ei greaduriaid ef.

19O achos hyn fy-mrodyr annwyl, A byddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn vnic, gan eich twyllo eich hunain.

23Canys o gwrendu nêb y gair, ac Math.7.21. rhuf.2.13.heb ei wneuthur, tebyg yw hwnnw i ŵr yn edrych ei wyneb-pryd naturiol mewn drych.

24Canys ystyriodd ef ei hun ac aeth ymmaith, ac yn y man anghofiodd pa sut ydoedd.

25Eithr y neb a edrycho ar yr hon sydd berffaith gyfraith rhydd-did, ac a erys ynddi, am nad ydyw efe wrandawr anghofus, eithr gwneuthurwr y weithred, happus fydd yn ei weithred.

26Os tybir fod neb yn eich mysc yn grefyddol, yr hwn nid attalio ei dafod, eithr sydd yn twyllo ei galō ei hun, crefydd hwnnw ofer yw.

27Crefydd pur a difrycheulyd ger bron Duw a’r Tad yw hyn, ymweled a’r ymddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw ei hun yn ddihalogedig oddi wrth y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help