1Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, molaf di ô Arglwydd, canys sorraist wrthif: dychwel dy lîd, a thi a’m cyssuri.
2Wele Duw fy iechydwriaeth, gobeithiaf ac nid ofnaf, canys yr Arglwydd Dduw fy nerth a’m can: efe hefyd yw fy iechydwriaeth.
3Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iechydwriaeth.
4Chwi hefyd a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Exod.15.2. Psal.111.4. 1 Cron.16.8molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hyspysswch ei weithredoedd ef ym mhlîth y bobloedd, cofiwch mai derchafedic yw ei enw ef.
5Cenwch i’r Arglwydd canys mawrhydri a wnaeth efe: bydded hyspys hyn yn yr holl dir.
6Bloeddia, a chan-mola presswyl-ferch Sion: canys mawr Sanct yr Israel o’th fewn di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
