1Clodforaf yr Arglwydd a’m holl galon: yn nirgelfa y rhai iniawn, ac yn y gynnulleidfa.
2Mawr gweithredoedd yr Arglwydd: hyspys i bawb ai hoffant.
3Gogoniant a harddwch ei waith ef: ai gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4Gwnaeth goffa am ei ryfeddodau, graslawn a thrugarog’r Arglwydd.
5Rhoddodd ymborth i’r rhai ai hofnant ef, efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.
6Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd: gan roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7Gwirionedd a barn gweithredoedd ei ddwylaw ef: ei holl orchymynnion ffyddlon:
8Wedi eu siccrhau byth yn dragywdd, gwneuthur mewn gwirionedd, ac iniawnder.
9Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol ac ofnadwy ei enw ef.
10Dechreuad doethineb ofn yr Arglwydd: deall da gan y rhai ai harferant hwy, y mae ei foliant ef yn parhau byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
