Psalmau 59 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lix.At y pen-cerdd eurog psalm Dafydd. Na ddifetha.Fy Nuw gwaret fi oddi wrth fyng-elynnion: amddeffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn.

2Gwaret fi oddi wrth weithred-wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3Canys wele cynllwynâsant yn erbyn fy enaid, ymgasclodd cedyrn i’m herbyn: nid fy mai na’m pechod mau fi ô Arglwydd.

4Rhedant ymbarâtoant heb anwiredd cyfot tithe i’m cafarfod, ac edrych.

5A thi Arglwydd Dduw’r lluoedd Duw Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth neb a’r a wnânt anwiredd yn falisus.Selah.

6Ymdroant gyd a’r hŵyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7Wele llefarant ai genau, chleddyfau yn eu gwefusau: canys pwy a glyw?

8Ond tydi ô Arglwydd ai gwattwari hwynt, a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9I ti y cadwaf ei nerth ef: canys Duw fy amddeffynfa.

10Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled ar fyng-elynnion.

11Na ladd hwynt rhag i’m pobl anghofio gwascar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, ô Arglwydd ein tarian.

12[Am] bechod eu genau, ymadrodd eu gwefusau y delir hwynt yn eu balchder: canys melldith, a chelwydd a draethant hwy.

13Difa yn lîd, difa fel na hwy ac y gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Iacob, hyd eithafoedd y ddaiar.Selah.

14A hwy a droant gyd a’r hwyr, ac a gyfarthant fel cŵn, ac a amgylchant y ddinas.

15Hwynt a grwydrant i fwytta, ac onis digonir, grwgnach a wnânt.

16Minne a gânaf am dy nerth, ac a ddad-canaf dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amddeffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd cyfyngder arnaf.

17I ti fy nerth y canaf: canys Duw fy amddeffynfa, fy Nuw trugarog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help