1.Samuel 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.Tywysogion y Philistiaid yn peri gyrru Dafydd yn ei ôl.

1Yna y Philistiaid a gynnullasant eu holl fyddinoedd i Aphec: a’r Israeliaid oeddynt yn gwerssyllu wrth Ain yr hon yn Iezrahel.

2A thywysogion y Philistiaid oeddynt yn trammwy yn gantoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd ai wŷr oeddynt yn cerdded yn olaf gyd ag Achis.

3Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, beth yr Hebræaid hyn ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, onid dymma Ddafydd gwâs Saul brenin Israel, yr hwn afu gyd a mi y dyddiau hyn, neu yr blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim yntho ef, er y dydd y ffoawdd efe hyd y dydd hwn?

4Er hynny tywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho ef, a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho ef, trô di y gŵr hwn fel y dychwelo iw le yr hwn y gosodaist ef arno, ac na ddeled i wared gyd a ni i’r rhyfel, rhac ei fod yn wrthwyneb-ŵr i ni yn y rhyfel: 1.Cron.12.19.canys a pha beth y rhynga hwn fôdd iw feistr onid a phennau y gwyr hyn?

5Onid hwn Dafydd yr hwn y canasant iddo yn y dawnsiau gan ddywedyd: Saul a darawodd ei filoedd, Pen.18.7.|1SA 18:7 & 21.11.a Dafydd ei fyrddiwn.

6Yna Achis a alwodd ar Ddafydd, ac a ddywedodd wrtho ef, byw yw yr Arglwydd diau dy ti yn inion, ac yn ddâ yn fyng-olwg i, pan elit allan, a phan ddelit i mewn gyd a mi yn y gwerssyll, canys ni chefais ynot ddrygioni o’r dydd y daethost attafi hyd y dydd hwn: eithr nid ti wrth fodd y tywysogion.

7Dychwel yn awr gan hynny a dos mewn heddwch: ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.

8Yna y dywedodd Dafydd wrth Achis, ond beth a wneuthum i, a pheth a gefaist di yn dy wâs o’r dydd yr hwn y bum o’th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynnion fy arglwydd frenin.

9Ac Achis a attebodd, ac a ddywedodd wrth Ddafydd, gwn mai da ti yn fyng-olwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, na ddeued efe i fynu gyd a ni i’r rhyfel.

10Am hynny yn awr cyfot yn foreu, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyd a thi: pan gyfodoch yn foreu, a goleuo i chwi, yna ewch ymmaith.

11Felly Dafydd a gyfododd, efe ai wŷr i fyned ymmaith y boreu, i ddychwelyd î dîr y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i fynu i Iezrehel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help