Psalmau 62 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxij.At y pen-cerdd Ieduthun Psalm Dafydd.

1 Wrth Dduw yn vnic y disgwil fy enaid, o honaw ef fy iechydwriaeth.

2Efe yn vnic fyng-hraig, a’m hiechydwriaeth: a’m hamddeffyn: ni’m mawr yscogir.

3Pa hŷd y bwriedwch aflwydd i bawb? lleddir chwi oll, fel magwyr ogwyddedic, bared ar ei ogwydd.

4Ymgynghorâsant yn vnic iw fwrw ef i lawr oi fawredd, hoffâsant gelwydd, ai geneuau y bendithiâsant, ac oi mewn y melldithiâsant.Selah.

5Oh fy enaid ymlonydda yn Nuw yn vnic, canys ynddo ef fyng-obaith.

6Efe yn vnic yw fyng-hraig a’m hiechydwriaeth: a’m hamddeffynfa, ni’m hyscogir.

7Yn Nuw fy iechydwriaeth a’m gogoniant: craig fyng-hadernid: yn Nuw fyng-obaith.

8Gobeithiwch ynddo ef bob amser ô bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw obaith i ni.Selah.

9Gwâgedd yn vnic meibion dynion, geudab meibion gwŷr: pan gyfodant yn y clorian hwy eu gyd na gwêgi.

10Nac ymddyriedwch mewn camwedd, ac mewn trawsedd na ddiflennwch: os cynnydda golud, na roddwch eich calon

11Un-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw cadernid.

12Trugaredd hefyd eiddo ti ô Arglwydd: 1.Cor.3.8.canys ti a dêli i bawb yn ôl ei weithred.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help