Ezeciel 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.Adrodd y mae amryw bechodau Ierusalem, ai chosp.

1Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf trachefn gan ddywedyd:

2Tithe fab dŷn a ferni di? a ferni ddinas y gwaed? a wnei di iddi ŵybod ei holl ffieidd-dra?

3Dywet tithe, fel hyn y dywedodd yr Aglwydd Dduw, tywallt gwaed y mae yr ddinas yn ei chanol, i ddyfod oi hamser, ac eulynnod a wnaeth hi oi hamgylch i ymhalogi.

4Euog wyt o’th waed yr hwn a dywelltaist, a halogedig wrth dy eulynnod y rhai a wnaethost: felly y nesseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd, am hynny i’th roddais yn warth i’r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i’r holl wledydd.

5Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthit a’th watwarant, yr halogedic o enw ac aml o gynnwrf.

6Wele tywysogion Israel oeddynt ynot bôb vn yn ei allu i dywallt gwaed.

7Dirmygasant ynot dâd, a mam, gwnaethant yn dwyllodrus a’r dieithr o’th fewn: gorthrymmasant ynot yr ymddifad a’r weddw.

8Dirmygaist fyng-hyssegroedd, ac halogaist fy Sabbothau.

9Athrod-wŷr oeddynt ynot, er mwyn tywallt gwaed, ar y mynyddoedd hefyd y bwyttasant ynot ti: gwnaethant scelerder o’th fewn.

10Ynot ti Lefit.20.11.y datcuddie noethni y tâd: yr aflan o fis-glwyf a ddarostyngent ynot.

11Gwnae Ier.5.8.ŵr hefyd ffiaidd-dra â gwraig ei gymmydog, a gŵr a haloge ei waudd ei hun mewn scelerder: îe darostynge gŵr ynot ei chwaer ei hun merch ei dad.

12Gwobr a gymmerent ynot am dywallt gwaed, cymmeraist vsuriaeth ac occraeth, ac elwaist ar dy gymmydogion trwy dwyll, ac anghofiaist fynne, medd yr Arglwydd Dduw.

13Am hynny wele tarewais fy llaw ar dy gybydd-dod yr rhwn a wnaethost, ac am y gwaed yr hwn oedd o’th fewn.

14A saif dy galon? a gryfhâ dy ddwylo yn y dyddiau y rhai y gwnelwyf myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wnaf.

15Canys gwascaraf di ym mysc y cenhedloedd, a thanaf di ar hyd y gwledydd: a gwnaf i’th aflendid ddarfod o honot.

16Ac ymhalogi ynot dy hun, yng-ŵydd y cenhedloedd, a chei ŵybod mai myfi yr Arglwydd.

17A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

18Ha fab dŷn, tŷ Israel ydynt gennif yn amhuredd, hwy oll yn prês, ac alcam, a haiarn, a phlwm yng-hanol y pair: amhuredd arian ydynt.

19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am eich bôd chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casclu chwi i ganol Ierusalem.

20Fel casclu arian, a phyês, a haiarn, a phlwm, ac alcam i ganol y ffwrn gan chwythu tân arnynt iw toddi: felly yn fy llid, a’m dig, y casclaf, y gosodaf, ac y toddaf chwi.

21Ie casclaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiawgrwydd fel y todder chwi yn ei chanol hi.

22Fel y toddir arian o fewn pair, felly y toddir chwi oi mewn hi: fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiawgrwydd arnoch.

23A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

24Dywet wrthi hi fab dŷn, ti sydd dîr heb ei buro, heb lawio arno yn nydd digter.

25Cydfradwriaeth ei phrophwydi oi mewn fel llew rhuadwy yn sclyfaethu sclyfaeth, dynion a fwyttasant, golud a thryssor a gymmerasant: ei gweddwon a amlhâsant oi mewn.

26Ei hoffeiriaid a dreisiasant fyng-hyfraith, ac a halogasant fyng-hyssegroedd: ni wahanasant rhwng cyssegredic a halogedic, ac ni wnaethant ŵybod rhwng yr aflan, a’r glân: cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabbothau, fel i’m halogwyd yn eu mysc hwynt.

27Eu pennaethiaid oeddynt yn Mic.3.11. soph.3.(sic.)ei chanol, fel bleiddiaid yn sclyfaethu sclyfaeth, gan dywallt gwaed, gan ddifetha eneidiau er elwa elw

28Ei phrophwydi hefyd a galchasant iddynt salwedd, gan weled gwagedd, Ezec.13.5.a dewino iddynt gelwydd, gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: a’r Arglwydd heb ddywedyd.

29Pobl y tîr a dwyllant dwyll, ac a dreisiant drais, ac a orthrymmant y truan, a’r tlawd, y dieithr hefyd a dwyllant trwy anghyfiawnder.

30Ceisiais hefyd ŵr o honynt yn caeu cae, ac yn sefyll ar yr adwy o’m blaen tros y wlâd, rhag ei dinistrio, ac ni’s cefais.

31Am hynny y tywalltaf fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiawgrwydd y difethaf hwynt, eu ffordd eu hun a roddaf ar eu pennau hwynt medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help