Genesis 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.1. Y sarph yn hudo y wraig. 6 hithe yn denu ei gwr i bechu 8 y gwr a’r wraig yn ymguddio rhag Duw. 14 Cospedigaeth ar bob vn o’r tri. 15 Addewid o Grist. 19 Bod dyn yn bridd. 22 Bwriad dyn allan o baradwys.

1A’r Doeth.2.24.sarph oedd gyfrwysach na holl fwyst-filod y maes, y rhai a wnaethe yr Arglwydd Dduw, a hi a ddywedodd wrth y wraig, ai diau ddywedyd o Dduw na chaech chwi fwytta o holl brennau’r ardd?

2A’r wraig a ddywedodd wrth y sarph, o ffrwyth prennau’r ardd y cawn ni fwytta.

3Ond am ffrwyth y prenn yr hwn yng-hanol yr ardd, Duw a dywedodd, na fwyttewch o honaw ac na chyffyrddwch ag ef, rhac eich marw.

4Yna y sarph a ddywedodd wrth y wraig: ni byddwch feirw ddim.

5Ond gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o honaw ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau yn gwybod dâ a drwg.

6Pan welodd y wraig mai dâ oedd y prenn yn fwyd, ac mai têg mewn golwg ydoedd, ai fod yn brenn dymunol i beri deall, yna hi a gymmerth oi ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes iw gŵr hefyd gyd a hi, ac efe a fwyttaodd.

7Yna eu llygaid hwynt ill dau a agorwyd, a gwybuant mai noethion hwy, a gwnîasant ddail y ffigus-bren, a gwnaethant arffedogau iddynt.

8Pan glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd ag awel y dydd, yna yr ymguddiodd Adda ai wraig, o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysc prennau’r ardd.

9A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar y dŷn, ac a ddywedodd wrtho, pa le ti?

10Yntef a ddywedodd, dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, o blegit noeth i am hynny yr ymguddiais.

11Yna y dywedodd pwy a fynegodd i ti mai noeth ti? ai o’r prenn yr hwn y gorchymynnaswn i ti na fwytteit o honaw, y bwytteaist?

12Ac Adda a ddywedodd: y wraig yr hon a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o’r prenn, a mi a fwytteais.

13Yr Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, pa ham y gwnaethost ti hyn? a’r wraig a ddywedodd: y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.

14A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph: am wneuthur o honot hyn, melldigediccach ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwyst-filod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttei holl ddyddiau dy enioes.

15Gelyniaeth hefyd a ossodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy hâd ti, ai hâd hithe: efe a yssiga dydi, a thithe a yssigi ei sodl ef.

16Wrth y wraig y dywedodd, gan amlhau yr amlhaf dy boenau di, a’th feichiogi, mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad at dy ŵr, ac efe a feistrola arnat ti.

17Hefyd wrth Adda y dywedodd, am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r prenn am yr hwn y gorchymynnaswn i ti gan ddywedyd, na fwytta o honaw: melltigedic y ddaiar oth achos di, a thrwy lafur y bwyttei o honi holl ddyddiau dy enioes.

18Drain hefyd ac ysgall a ddŵg hi i ti: a llyssiau y maes a fwyttei di.

19Trwy chwŷs dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaiar; o blegit o honi i’th gymmerwyt, canys pridd ti, ac i’r pridd y dychweli.

20A’r dŷn a alwodd henw ei wraig Efa: o blegit hi oedd fam pob byw.

21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda, ac iw wraig ef beisiau crwyn, ac ai gwiscodd am danynt.

22Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, wele y dŷn sydd megis vn o honom ni yn gwybod dâ a drwg, weithian gan hynny, rhac iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o brenn y bywyd, a bwytta, a byw yn dragwyddol.

23Am hynny yr Arglwydd Dduw ai hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaiar, yr hon y cymmerasyd ef o honi.

24Felly efe a yrrodd allan y dŷn, ac a ossododd o’r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a llafn y cleddyf tanllyd yscwydedig, i gadw ffordd prenn y bywyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help