1Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog ai destruwia ef i ai dwylo.
2Yr Iob.12.4,2.hwn sydd yn rhodio yn ei iniawnder sydd yn ofni yr Arglwydd, a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd sydd yn ei ddirmygu ef.
3Yng-ênau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion ai ceidw hwynt.
4Lle nid oes mo’r ŷchen, gwag yw y presebau: ond llawer o gnŵd drwy lafur yr ŷch.
5 Dihar.12.17. Tyst gwirion ni ddywed gelwydd: ond gau-dyst a draetha gelwyddau.
6Y gwatwar-ŵr a gais ddoethineb, ac ni’s ond gŵybodaeth sydd yscafn i’r hwn a fynno ddeall.
7Dos di ymmaith oddi wrth ŵr ffôl, pan wypech di nad wefusau gŵybodaeth.
8Doethineb y call deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid twyll.
9Y ffyliaid a hyfrydant mewn camwedd: ond ym mhlith y rhai iniawn ewyllys dâ.
10Y galon sydd yn gŵybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni chaiff fod yn gyfrannog oi llawenydd hi.
11Tŷ yr annuwolion a ddinistrir: a phabell y rhai iniawn a flodeua.
12Y mae ffordd iniawn ger bron gŵr: ond ei diwedd hi yw ffordd angeu.
13Ie wrth chwerthyn y bydd blîn ar y galon: a diwedd y llawenydd hwnnw tristwch.
14Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon oi ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus oddi wrtho ef.
15Yr ehud a goelia bôb gair: a’r call a ddeall ei gamrau.
16Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ddigllon, a diofal.
17Gŵr digllon a wna ffolineb: a châs yw’r gŵr dichellgar.
18Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir o herwydd eu gwybodaeth.
19Y rhai drygionus a ymostyngant ger bron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.
20Y tlawd a gaseîr, îe gan ei gymmydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.
21Y pechadur a ddirmyga ei gymmydog: ond gwyn ei fyd y trugarog wrth y tlawd.
22Onid ydyw y rhai a ddychymmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r neb a ddychymmygant ddaioni.
23Ym mhôb llafur y mae rhyw elw: ond mewn geiriau gweigion nid oes dim ond tlodi.
24Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd wir ffolineb.
25Tŷst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.
26Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac iw blant ef y bydd diogelwch.
27Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd i ddiangc rhag maglau angeu.
28Mewn amlder y bobl y bydd anrhydedd y brenin: ac o ddiffig pobl y dinistrir y brenin.
29Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synwyr: ond y gŵr digllon a gyffru gynnen.
30 Pen.17.5. Llawenydd y galō yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra’r escyrn.
31Y neb a wnelo gam a’r tlawd a gywilyddia ei greawdudd: ond y neb a drugarhâo wrth yr anghenus ai anrhydedda ef.
32Y drygionûs a syrth yn ei ddrŷgioni ei hûn: ond y cyfiawn a obeithia ym mron marw.
33Doethineb sydd yn gorphywys yng-halon y call: ac ym mysc ffyliaid yr adweinir
34Cyfiawnder a dderchafa y genhedlaeth: ond trugaredd bobl yn bechod.
35Ewyllys da’r brenin fydd ar ei wâs synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar wâs gwradwyddus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.