Iosuah 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Rahab yn derbyn iw thy, y rhai a yrrase Iosuah i edrych anfodd y wlâd. 14 Eu haddewid hwythau i Rahab.

1Yna Iosuah mab Nun a anfonase o Num.25.1.Sittim ddau ŵr i chwilio yn ddirgel gan ddywedyd, ewch, edrychwch y wlâd, ac Iericho a hwynt a aethant, ac a ddaethant i dŷ Hebr.11.31.|HEB 11:31. Iam.2.25.puttein-wraig, ai henw Rahab, ac a orphywysasant yno.

2A mynegwyd i frenin Iericho gan ddywedyd: wele, gwŷr a ddaethant ymma heno o feibion Israel i chwilio y wlâd.

3Yna brenin Iericho a anfonodd at Rahab gan ddywedyd: dŵg allan y gwŷr a ddaethant attat ti, y rhai a ddaethant i’th dŷ di, canys i chwilio’r holl wlâd y daethant.

4Ond y wraig a gymmerase y ddau ŵr ac ai cuddiase hwynt: am hynny hi a ddywedodd fel hyn: y gwŷr a ddaethant atafi, ond ni wyddwn i o ba le hwy.

5A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, yna y gwŷr a aethant allan, ni wn i ba le’r aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt, canys chwi ai goddiweddwch hwynt.

6Ond hi a barase iddynt ddringo i nenn y tŷ: ac ai cuddiase hwynt mewn bolldeidiau llîn y rhai oedd genddi wedi eu hysgafnu ar nenn y tŷ.

7A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hol hwynt tua’r Iorddonen hyd y rhydoedd: a’r porth a agorwyd hwyn-gyntaf ac yr aeth y rhai oeddynt yn erlid ar eu hol hwynt allan.

8A chyn iddynt hwy gyscu: yna hi a ddringodd attynt hwy ar nenn y tŷ.

9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, mi a wn mai’r Arglwydd a roddodd i chwi y wlâd, o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni: canys holl drigolion y wlad a ddihoenasant rhac eich ofn.

10Canys ni a glywsom fel Exod.14.21.y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr côch o’ch blaen chwi, pan aethoch allan o’r Aipht: a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid y rhai tu hwnt yr Iorddonen i Num.21.13.Sehon, ac Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.

11Pan glywsom yna ein digalonnwyd fel na safodd mwyach gyssur yn neb rhac eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw sydd Dduw yn y nefoedd oddi vchod, ac ar y ddaiar oddi isod.

12Yn awr gan hynny tyngwch attolwg wrthif i’r Arglwydd o herwydd i mi wneuthur trugaredd a chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd a thylwyth fy nhad inne, ac y rhoddwchi mi arwydd gwîr,

13Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, fy mrodyr hefyd, a’m chwiorydd, a’r hyn oll ganddynt: ac y gwaredwch ein henioes rhac angeu.

14A’r gwŷr a ddywedasant wrthi: ein henioes i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein ymadrodd hyn) pan roddo’r Arglwydd i ni y wlâd hon, oni wnawn a chwi drugaredd a gwirionedd.

15Yna hi ai gollyngodd hwynt i wared wrth raff drwy y ffenestr canys ei thŷ hi o fewn mûr y ddinas, ac yn y mûr yr oedd hi yn trigo.

16A hi a ddywedodd wrthynt, ewch i’r mynydd rhac i’r erlidwŷr gyfarfod a chwi: ac ymguddiwch yno dri-diau nes dychwelyd o’r erlidwŷr, ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.

17A’r gwŷr a ddywedasant wrthi: diniwed ni oddi wrth dy lw ymma yr hwn i’n tyngaist.

18Wele pan ddelom ni i’r wlâd: rhwyma y llinin ymma o edyf gôch yn y ffenestr yr hon y gollyngaist ni drwyddi, cascl hefyd dy dâd, a’th fam, a’th frodyr, a holl dŷ-lwyth dy dad atat i’r tŷ ymma.

19A phwy bynnac a’r a êl o ddryssau dy dŷ di allan, ei waed ef ar ei benn ei hun, aninnau yn ddiniwed: a phwy bynnac fyddo gyd a thi yn tŷ ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw yn ei erbyn ef.

20Ac os mynegi di ein ymadrodd hynn: yna y byddwn ddiniwed oddi wrth dy lw yr hwn i’n tyngaist.

21A hi a ddywedodd, yn ôl eich geiriau felly hynny: yna hi ai gollyngodd hwynt, a hwy a aethant ymmaith: a hi a rwymodd y llinin côch yn y ffenestr.

22Yna hwynt a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd, ac a arhosasant yno dri-diau nes i’r erlidwŷr ddychwelyd: a’r erlidwŷr ai ceisiasant ar hyd yr holl ffordd, ond nis cawsant.

23Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddescynnasant o’r mynydd, aethant hefyd trosodd, a daethant at Iosuah fab Nun: a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddase iddynt.

24A dywedasant wrth Iosuah, yn ddiau’r Arglwydd a roddodd yr holl wlâd yn ein dwylo ni: canys holl drigolion y wlad a ddihoenasant rhac ein hofn ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help