Gweledigaeth Ioan 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Ioan yn clywed rhoi moliant i Dduw am farnu’r buttain, ac am ddial gwaed ei weision. 10 Ni fyn yr angel ei addoli, 17 Yr ydys yn galw’r ehediaid a’r adar i’r lladdfa.

1Ac yn ôl hyn, mi a glywais lef vchel gan dyrfa fawr yn y nêf yn dywedyd, Halelu-Iah, iechyd a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu a fyddo i’r Arglwydd ein Duw ni,

2Canys cywir a chyfiawn ydyw ei farnau ef, canys efe a farnodd y buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaiar â’i godîneb, ac a ddiâlodd waed ei weision ar ei llaw hi,

3Ac eil-waith hwy a ddywedasant, Halelu-Iah, a’i mŵg hi a gododd yn dragywydd.

4A’r pedwar henuriad ar hugain, a’r pedwar anifail a syrthiasant i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc, gan ddywedyd, Amen, Halelu-Iah.

5A llais a ddaeth allan o’r orsedd-faingc yn dywedyd moliennwch ein Duw ni ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.

6Ac mi a glywais lais fel tyrfa fawr, ac fel llais llawer o ddyfroedd, ac fel llais tarânau cedyrn yn dywedyd, Halelu-Iah, canys ein Arglwydd Dduw holl-alluog a aeth yn Frenin.

7Llawenychwn a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef, o blegit dyfod priodas yr Oen, a’i wraig ef a ymbarattôdd.

8A canniattauwyd iddi ymwysco â lliain main pur a disclaer, canys y lliain main ydyw cyfiawnder y sainct.

9Ac efe a ddywedodd wrthif, scrifenna, Math.22.2.Bendigedig yw y rhai a elwir i swpper neithior yr Oen, ac efe a ddywedodd wrthif, y geiriau hyn i Dduw ydynt wîr.

10Ac mi a syrthiais gerbron ei draed ef, iw addoli ef, ac efe a ddywedodd wrthif, ymôgel rhag gwneuthur hynny, cydwasanaethŵr wyfi i ti, ac i’th frodyr, y rhai y mae ganddynt destiolaeth Iesu, addola Dduw, canys testiolaeth Iesu ydyw Yspryd y brophwydoliaeth.

11Ac mi a welais y nêf yn agored, ac wele farch gwyn, a’r hwn a eisteddodd arno a elwid Ffyddlon a chywir, ac y mae efe yn barnu, ac yn rhyfela yn gyfiawn.

12A’i lygaid ef oeddent fel fflam dân, ac ar ei ben ef yr oedd llawer o goronau: ac yr ydoedd ganddo henw yn scrifennedig, yr hwn nid adnabu nêb, ond efe ei hun.

13Ac ef a ddilladwyd â gwisc wedi ei throchi mewn gwaed, a’i henw ef a elwir Gair Duw,

14A’r rhyfelwŷr oeddent yn y nêf, ai dilynasant ef ar feirch gwynion, wedi ymwisco â lliain main gwyn â glân.

15Ac o’i enau ef yr aeth allan gleddyf llym, i daro âg ef y cenhedloedd, Psal.2.9.canys efe a’u rheola hwynt â gwialen haiarn, ac efe yw yr hwn sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llîd Duw holl-alluog.

16Ac y mae ganddo yn ei wîsc, ac ar ei forddwyd henw scrifennedig, 1.Tim.6.15.Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi:

17Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul, yn llefain â llefvchel, gan ddywedyd wrth yr hôll adar y rhai oeddent yn ehedeg trwy ganol y nêf, deuwch, ac ymgynhullwch yng-hŷd i swpper y Duw mawr,

18Fel y galloch fwytta cîg brenhinoedd, a chîg pen-captenniaid, a chîg gwyr cedyrn, a chig meirch, a’r rhai ydynt yn eistedd arnynt, a chîg gwyr rhyddion a cheithion, a bychain a mawrion oll.

19Ac mi a welais y bwyst-fil, a brenhinoedd y ddaiar, a’u rhyfel-wŷr wedi ymgynnull ynghyd i ryfêla yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei fil-wŷr.

20Ond y bwyst-fil a ddaliwyd, a’r prophwyd ffals gyd ag ef yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbynniasent nôd y bwyst-fil, a’r rhai a addolâsent ei ddelw ef, y ddau hyn a fwriwyd yn fyw i’r pwll tân yr hwn sydd yn llosci â brwmstan.

21A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn sydd yn eistedd a’r y march, yr hwn sydd yn dyfod allan o’i enau ef, a’r hôll adar a lanwyd o’u cîg hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help