1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd,
2Pwy a gynnorthwyaist ti? ai yr dinerth? a achubaist ti y braich heb gadernid?
3Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist reswm yn aml?
4Wrth bwy y mynegaist yr ymadroddion? ac enaid pwy a ddaeth allan o honot ti.
5[Pethau] wedi meirw a lunnîr oddi tann y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.
6Y mae vffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes dô ar ddestruw.
7Y mae efe yn tanu y gogledd ar wag-le: y mae efe yn crogi y ddaiar ar ddiddim.
8Y mae efe yn rhwymo dyfroedd yn ei gwmylau: ac nid ydyw’r cwmwl yn hollti tanynt hwy.
9Y mae efe yn attal wyneb orseddfaingc: y mae efe yn tanu ei gwmwl arni hi.
10Efe a amgylchynodd derfyn a gosodedic ar wyneb y dyfroedd: hyd orphenniad goleuni, a thywyllwch.
11Y mae colofnau y nefoedd yn escwyd: ac yn crynu rhac ei gerydd ef.
12Efe a ostêgodd y môr ai nerth: ac a darawodd falchter ai ddoethineb.
13Efe a addurnodd y nefoedd ai yspryd: ei law ef a luniodd y sarph dorchoc.
14Wele dymma rannau ei ffyrdd ef, ac morr fychan’r peth yr ydym ni yn ei glywed am dano ef? ond pwy a ddeall darânau ei gadernid ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
