Daniel 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Ymladdiad hwrdd a bwch yn arwyddocâu rhyfel rhwng y Persiaid a’r Groegiaid.

1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Balthasar y brenin yr ymddangosodd i mi weledigaeth: myfi Daniel wedi a ymddangosase i mi yn y dechreuad.

2Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, a bu pan welais, mai yn Susan y brēhin-lys yr hwn o fewn talaith Elam i: îe gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.

3Yna y cyfodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo, a’r ddau gorn oeddynt vchel, ac vn yn vwch na’r llall: a’r vchaf a gyfodase yn olaf.

4Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewyn, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safe vn bwyst-fil oi flaen ef, ac nid a achube rhagddo ef: ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a ymfawrygodd.

5Ac yr oeddwn yn ystyried wele hefyd fŵch geifr yn dyfod o’r gorllewyn, ar hŷd wyneb yr holl ddaiar, ac heb gyffwrdd a’r ddaiar, ac i’r bŵch corn amlwg rhwng ei lygaid.

6Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd cornioc yr hwn a welswn yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd atto ef oi holl nerth.

7Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a ymchwerwodd wrtho ef, ac a darawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd cryfder yn yr hwrdd i sefyll oi flaen ef, eithr efe ai bwriodd ef i lawr, ac ai sathrodd ef, ac nid oedd a achube yr hwrdd oi law ef.

8A’r bŵch geifr a ymfawrogodd yn fawr, ac wedi ei gryfhaû torrodd y corn mawr, a chododd pedwar corn yn ei lê ef tua phedwar gwynt y nefoedd.

9Ac o vn o honynt y daeth allan vn corn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol tua’r deheu a thua’r dwyrain, a thua’r hardd-wlâd.

10Tyfodd hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr o’r llu, ac o’r sêr, ac ai sathrodd hwynt.

11Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, yna y dugwyd ymmaith yr gwastadol oddi wrtho ef, ac y bwriwyd ymmaith le ei gyssegr ef.

12Felly y gosodir llu yn erbyn yr gwastadol mewn camwedd, ac efe a fwrw y gwirionedd i lawr, felly y gwna, ac y llwydda.

13A chlywais ryw sanct yn llefaru, a dywedodd rhyw sanct wrth ryw vn rhagorol yr hwn oedd yn llefaru: pa hŷd gweledigaeth yr offrwm gwastadol, gan roddi y cyssegr a’r llu yn sathrfa?

14Ac efe a ddywedodd wrthif, hyd ddwy fil a thry-chant o ddiwrnodau: yna y purir y cyssegr.

15A phan welais i Daniel y weledigaeth a cheisio o honof ddeall, yna wele safodd ger fy mron megis rhith gŵr.

16A chlywais lais dyn rhwng Ulai, ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.

17Ac efe a ddaeth wrth y lle y sefais, a phan ddaeth mi a ddychrynnais, ac a syrthiais ar fy wyneb, ac efe a ddywedodd wrthif: deall fab dŷn o herwydd y weledigaeth dros amser terfynol.

18A thra llefarodd wrthif syrthiais mewn trym-gwsc i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll.

19Dywedodd hefyd: wele fi yn yspyssu it yr hyn a fydd yn niwedd y digter, canys ar amser gosodedic diben.

20Yr hwrdd yr hwn a welaist yn berchen deu-gorn brenin y Mediaid a’r Phersiaid.

21A’r bwch blewog brenin Groec, a’r corn mawr yr hwn rhwng ei lygaid, dyna y brenin cyntaf.

22Lle y drylliwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r genhedlaeth, ac nid vn nerth ag ef.

23Ac yn niwedd eu brenhiniaeth hwynt, (pan gyflawner y trosedd-wŷr) y cyfyd brenin caled ei wyneb, ac yn deall dammegion.

24Ai nerth ef a gadarnheuir, ond nid yn ei nerth ei hun, efe a ddinistria yn rhyfedd ac a lwydda, ac a orphen: îe efe a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd.

25A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo, ac efe a ymfawryga yn ei galon: a thrwy lonyddwch y dinistria efe lawer, ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion, yna y dryllir ef heb law.

26A gweledigaeth yr hwyr, ar boreu, yr hon a draethwyd sydd wirionedd, selia dithe y weledigaeth, o herwydd wedi dyddiau lawer

27Minne Daniel a lesceais, ac a fum glaf ennyd, yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a ryfeddais o herwydd y weledigaeth, gan nad a fedre ddirnad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help