1Wele fy llygad a welodd oll: fyng-hlust a glywodd, ac ai deallodd.
2Mi a wn yn gystal a chwithau, nid ydwyf waeth na chwithau.
3Yn wîr myfi a lefaraf wrth yr Holl-alluog: ac yr ydwyf yn chwennychu ymrysymmu a Duw.
4Ond rhai yn iassio celwydd chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.
5Oh gan dewi na thawech: a a fydde i chwi yn ddoethineb.
6Clywch attolwg fyng-herydd: a gwrandewch ar reswm fyng-wefusau.
7A ddywedwch chwi anwiredd tros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?
8A dderbynniwch chwi ei wyneb ef: a ymrysonwch chwi tros Dduw?
9Ai da pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?
10Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi: os derbynniwch chwi wyneb yn ddirgel.
11Oni ddychryna ei ardderchawgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?
12Cyffelyb i ludw eich coffadwriaeth chwi: a’ch cyrph chwi i gyrph o glai.
13Tewch yn fyng-ŵydd i fe l y llefarwyf inne: a deued arnaf yr hyn
14Pa ham y cymmeraf fyng-nhawd a’m dannedd? ac y gosodaf fy enaid yn fy llaw?
15Pe lladde efe fi, mi a obeithiwn ynddo ef: er hynny fy ffyrdd fy hun a argyoeddaf ger ei fron ef.
16Hefyd efe yn iechydwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.
17Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd: ac a ymryson a mi? canys yn awr tawaf mi a drengaf.
20Ond dau na wna di i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.
21Pellhâ dy law oddi arnaf: ac na ddychrynned dy ddychryn fi.
22Galw yna, ac myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac atteb di fi.
23Pa faint o gamweddau, ac o bechodau sy yn ôl? par di i mi adnabod fyng-hamwedd a’m pechod.
24Pa ham y cuddi di dy wyneb? a ymlidi di soflun sych?
25A ddrylli di ddeilen escwydedic? a ymlidi di soflun sych?
26Canys yr wyt ti yn scrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn: ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuengctid.
27Ie yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwilied fy holl lwybrau: yn peri ymnoddi am fy ffêrau.
28A’r cyfryw vn megis pydrni a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a yssa gwyfyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
