1A myfi (frodyr) ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysprydol, ond megis rhai cnawdol, ac megis plant bychain yng-Hrist.
2Rhoddais laeth i chwi iw yfed, ac nid bwyd, am na’s gallech ac ni’s gellwch etto.
3Canys cnawdol ydych chwi etto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, ac ymryson a chynhennau, ond ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?
4Canys tra dywedo vn, myfi ydwyf eiddo Paul, arall, myfi wyf eiddo Apollos, ond ydych chwi yn gnawdol?
5Canys, pwy yw Paul? pwy yw Apollos? ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch, a fel y rhoddes yr Arglwydd i bawb?
6Myfi a blennais, Apollos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd.
7Felly nid yw yr hwn sydd yn plānu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau, ond Duw yr hwn sydd yn rhai y cynnydd.
8Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau ydynt vn, Psal.62.12. gal.6.5.a phob vn a dderbyn ei briod wobr ei hun yn ôl ei lafur ei hun.
9Canys cyd-weithwŷr i Dduw ydym ni, chwithau ydych lafur-waith, ac adeiladaeth Duw.
10Yn ôl grâs Duw, yr hwn a ddodwyd i mi, megis pen-saer celfydd, gosodais i y sail, ac y mae arall yn goruwch-adailadu, ond edryched pawb, pa wedd y mae yn goruwch-adailadu.
11Canys ni all neb osod sail arall, amgen nâ’r hwn a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12Os adailada neb ar y seiliad hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair sofl,
13Gwaith Pawb a amlygir: canys y dydd a’i dengys: o blegit gan y tân y dadcuddir, a’r tân a brawf waith pawb, pa fath sydd arno.
14Os gwaith neb yr hwn a oruwch-adailado efe a erys, efe a dderbyn wobr.
15Os llysc gwaith neb, efe a gaiff golled, eithr efe a fydd cadwedic, ond er hynny megis trwy dân.
16 2.Cor.6.16. Oni ŵyddoch chwi, mai teml Dduw ydych, a bod Yspryd Duw yn aros ynoch?
17Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Dduw yr hon ydych chwi.
18Na thwylled neb ei hunan, od oes neb yn eich mysc yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn: bydded ffol fel y byddo ddoeth.
19Canys doethineb y byd hwn ffolineb gyd â Duw, o herwydd scrifēnedic yw, Iob.5.13.y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.
20Ac eil-waith: Psal.94.11.y mae yr Arglwydd yn adnabod meddyliau y doethion mai ofer, ydynt.
21Am hynny, na orfoledded neb mewn dynion, canys pob peth oll sydd eiddoch chwi.
22Os Paul, os Apollos, os Cephas, os y byd, os bywyd, os angeu, os pethau presennol, os pethau a ddaw y maent yn eiddoch chwi oll,
23A chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
