Rhufeiniaid 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Serch sanct Paul ar wyr ei wlad. 11 Y mod y mae Duw yn dewis rhai, ac yn gwrthod eraill. 24 Galwedigaeth y cenhedloedd. 30 A gwrthodiad yr Iddewon.

1Gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng-Hrist, nid wyf yn dywedyd celwydd (am cydwybod yn cydtestiolaethu â mi yn yr Yspryd glân)

2Fod tristid mawr a dolur dibaid yn fynghalon.

3Canys ni a ddymunwn fod yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fyng-henedl yn ôl y cnawd:

4Y rhai ydynt yr Israeliaid, i ba rai y mabwysiad, a’r gogoniāt, a’r cyfammodau, a dodiad y ddeddf, a gwasanaeth a’r addewidion.

5O ba rai yr hanoedd y tadau, ac o ba rai o herwydd y cnawd Crist yr hwn sydd yn Dduw vwch law ôll yn fendigedic yn oes oesoedd. Amen.

6Er hynny amhossibl yw myned gair Duw yn ddi-rym, canys nid hwy oll yn Israeliaid, a’r a o Israel,

7Ac nid ydynt hwy oll yn blant, o blegit eu bod o hâd Abraham: eithr yn Isaac y gelwir dy hâd di.

8Hynny yw, nid y rhai sy yn blant y cnawd ydynt blant Duw: eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.

9Canys gair addewid yw Gen.18.10.hwn, yn yr amser hwn y deuaf, ac y bydd mâb i Sara.

10Ac nid efe yn vnic a ond hefyd Gen.25.21.Rebecca wedi iddi feichiogi o vn o’n tâd Isaac.

11Canys etto cyn geni’r a phryd na wnaethent na drwg na da, (megis wrth etholedigaeth Duw y parhaue yr arfaeth nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw)

12Y dywedwyd wrthi, Gen.25.23.yr hynaf a wasanaetha yr ieuangaf.

13Megis yr scrifennwyd, Mala.1.2.Iacob a gerais, ac Esau a gaseais.

14Beth a ddywedwn wrth hynny? a oes anghyfiawnder gan Dduw? ymbell oedd.

15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Exod.33.19.mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiaf.

16Ac felly nid yw yr hwn a ewyllysio, nac ar law yr hwn a rêdo, eithr ar law Duw yr hwn sydd yn trugarhau.

17Canys y mae yr scrythur yn dywedyd wrth Pharao: I hynn ymma i’th gyffroais di, fel y dangoswn fy meddiant ynot ti, ac fel y datcenid fy enw trwy’r holl ddaiar.

18Am hynny wrth yr hwn y mynno y trugarhâ efe, a’r hwn a fynno, efe a’i caleda.

19Dywedi gan hynny wrthif, pa ham y mae efe etto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?

20Yn hytrach ô ddyn pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y Esai.45.9.|ISA 45:9. ierem.18.6.|JER 18:6. dorth.15.7.peth ffurfedic wrth yr hwn a’i ffurfiodd, pa ham i’m gwnaethost fel hyn.

21Onid oes awdurdod i’r crochênydd ar y priodgist, i wneuthur o’r vn telpyn pridd vn llestr i barch, ac arall i amharch?

22Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei feddiant, a ddioddef drwy hir ymaros llestri’r digofaint y rhai a arlwywyd i golledigaeth?

23Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a arlwyodd efe i ogoniant?

24[Sef] nyni y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn vnic, eithr hefyd o’r cenhedloedd.

25Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Ose.2.23.mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi: ar hon nid yw annwyl yn annwyl.

26A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt Ose.1.10. 1.pet.2.10.nid ydych yn bobl i mi, yno y gelwir hwy yn plant y Duw byw.

27Hefyd y mae Esaias yn llefain am yr Israel, Esa.10.21.cyd bydde nifer plant Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.

28Canys efe a orphen ac a fyrhâ air mewn cyfiawnder: canys yr Arglwydd a fyrhâ air ar y ddaiar.

29A megis y dywedodd Esaias yn y blaen, oni buase i Arglwydd y lluoedd adel i ni hâd, gwnaethid ni fel Sodoma, a chyffelyb fuasem i Gomorra.

30Beth gan hynny a ddywedwn? cael o’r cenhedloedd gyfiawnder y rhai ni ddilynasant gyfiawnder, sef y cyfiawnder o ffydd.

31Ac Israel yr hwn a ddilynodd ddeddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder.

32Pa ham? am nas ceisient â ffydd, eithr megis o weithredoedd y ddeddf: canys tramgwyddasant wrth faen y tramgwydd,

33Megis y mae yn scrifennedic: Esa.8.14. & 28.16. & 118.22.(sic.)wele fi yn gosod yn Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr; a phôp vn a gredo ynddo ni chywilyddir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help