1Yn y flwyddyn y daeth 2 Bren.18.7.Tharthan i Asdod, (pan ddanfonodd Sargon brenin Assyria ef,) ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod, ac ai hennillodd hi,
2Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Esay fab Amos gan ddywedyd, dos a dattod y sach-liain oddi am dy lwynau, a diosc dy escidiau oddi am dy draed: ac efe a wnaeth felly gan rodio yn noeth-lwm, ac heb escidiau.
3Dywedodd yr Arglwydd hefyd, megis y rhodiodd fyng-wâs Esay yn noeth, ac heb escidiau dair blynedd, yn arwydd, ac yn argoel yn erbyn yr Aipht, ac yn erbyn Ethiopia:
4Felly yr arwein brenin Assyria gaethiwed yr Aipht, a chaethglud Ethiopia, yn llangciau, a henaf-gwŷr, yn noethion, ac heb escidiau, ac yn din-noeth gwarth yr Aiphtiaid.
5Brawychant a chywilyddiant gan Ethiopia eu gobaith hwynt, a chan yr Aipht eu gogoniant hwy.
6A’r dydd hwnnw y dywed presswylwŷr yr ynys hon, wele fel hyn ein gobaith ni lle y ffoesom am gymmorth i’n gwared ni rhag brenin Assyria: pa fodd gan hynny y dihangwn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
